Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Tachwedd 2021
COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL DROS ZOOM
NOS LUN, Y 1AF O DACHWEDD 2021 AM 19:00 O'R GLOCH
Presennol: Cadeirydd: H Hughes
C Bainbridge
R Dalton
M Griffiths
J James
G B Jones
A J Morris
D Pryce Jones
A Thomas
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
Clerc: M Walker
4 Aelod o'r Cyhoedd.
YMDDIHEURIADAU
179. Y Cynghorwyr R Davies a D Tweedy.
CYFLWYNIAD GAN GYNRYCHIOLWYR GRŴP BORTH 2030
180. Rhoddodd Dr Andrea Hughes gyflwyniad ar sut y ffurfiwyd y grŵp a chynllun hirdymor ei aelodau ar gyfer dyfodol y Borth a sut y maent yn bwriadu gweithio gyda grwpiau ac eraill er mwyn gwella'r Borth.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
181. Dymunai Mr Graham Taylor ddiolch i Mr James Davies am ddangos i Scottish Power lle'r oedd tarddiad y nam trydanol yn y pentref ddydd Sul, yr 31ain o Hydref.
DATGAN BUDDIANNAU
- Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
183. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 4ydd o Hydref. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
MATERION YN CODI
- Dim.
GOHEBIAETH
185. COVID-19. Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Sir Ceredigion, Un Llais Cymru a Llywodraeth Cymru.
186. Un Llais Cymru.
Cylchlythyr Medi 2021 .
Lansio'r Adolygiad o Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru a gynhelir ar Smart Survey.
Peilota Pecyn Cymorth Hunanwerthuso Cynghorau Cymuned a Thref – Datganiad o Ddiddordeb.
Mae Cynnal Cymru – Sustain Wales yn cynnal cwrs Llythrennedd Eco newydd, Nabod Natur – Nature Wise. Maent yn cynnig hyd at 150 o leoedd hyfforddi ar-lein am ddim i grwpiau cymunedol neu wirfoddol yng Nghymru sydd â'u bryd ar ddiogelu ac adfer yr amgylchedd naturiol.
Ymgynghoriad ar Ddiweddaru Trothwyon Enillion ar gyfer Adennill y Dreth Gyngor.
Bwletin mis Hydref.
Cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion a gynhelir ar y 19eg o Hydref.
Hyfforddiant am Ddim - Gweithredu yn erbyn Oedraniaeth (ar gyfer rhanddeiliaid).
Fersiwn ddiwygiedig o'r Protocol Datrys Anghydfodau Anffurfiol enghreifftiol.
Mae pecynnau Cadwch Gymru'n Daclus ar gael.
Ymgynghoriadau ar Gynlluniau Teithio Llesol.
Sesiynau hyfforddi o bell a gynhelir ym mis Medi/Hydref.
Ymchwil Llywodraeth Cymru i swyddogaeth cynghorwyr yng Nghymru a'r gydnabyddiaeth ariannol a gânt. Nodyn i atgoffa pobl i gwblhau'r arolwg ar-lein.
COP Cymru 2021 – pecyn cymorth i randdeiliaid.
Magnificent Meadows Cymru - Gweminar gan Plantlife.
Diweddariad mis Hydref 2021 i'r canllaw sy'n ymwneud â chymryd rhan yn Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, yr 2il o Fehefin 2022.
Mae lefelau'r Coronafeirws yn beryglus o uchel yng Ngheredigion.
Swydd Wag - Swyddog Prosiectau Cynghorau Cymuned a Thref Sir Benfro, Un Llais Cymru.
Rhwydwaith Cymheiriaid Ymarfer Pobl.
Darparu Gwerth Cyhoeddus.
187. Llywodraeth Cymru.
Manylion a dolenni i'r ymgynghoriadau cyfredol.
Newyddion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
188. Cyngor Sir Ceredigion.
Atgoffir trigolion Ceredigion i fod yn ymwybodol o'r sgam diweddaraf sy'n ymwneud â COVID-19.
Dod â gwaith T Llew Jones yn fyw i blant.
Polisi Gamblo drafft Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2022.
Ceredigion yn dathlu Diwrnod Shwmae Su'mae 2021.
Aelod Seneddol Ieuenctid newydd yn cael ei ethol dros Geredigion.
Arweinwyr y Cyngor yn cyfarfod â Llywodraethau'r DU a Chymru i ymgyraedd at gam nesaf ar gyfer Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru.
Agorwch eich cartref i Maethu Cymru.
Mae Ceredigion ar restr fer Gwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid 2021.
Cau Ffordd Dros Dro: B4353 Dôl-y-bont, y Borth - er mwyn archwilio'r bont.
Opsiynau lliniaru i'w hystyried ar gyfer lefelau ffosffad Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi.
Cymeradwywyd Cynllun Gweithredu Strategaeth Gydol Oes a Lles Ceredigion.
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Newidiadau i rai mesurau Coronafeirws ar Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion.
Datganiad ar y cyd rhwng Hywel Dda, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Cynghorau Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion sy'n manylu ar y galw digynsail am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae hyn yn arwain at oedi sylweddol yn y gofal sy'n cael ei ddarparu.
Gwybodaeth am ddyledion a chymorth.
Cyhoeddi buddsoddiad ar gyfer cynllun adfywio glan môr Aberystwyth.
Cadw'n ddiogel wrth ddathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Menter newydd i gefnogi trefi gwledig Ceredigion.
189. Cyfoeth Naturiol Cymru. Llythyr Cyfoeth Naturiol Cymru at bob warden llifogydd.
190. Heddlu Dyfed Powys. Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, ynghylch ei ymgynghoriad cyhoeddus parhaus ar flaenoriaethau plismona a lefel Praesept yr Heddlu.
191. Clymog Japan. Ateb i'r llythyr a anfonwyd ym mis Medi a oedd ynghylch tyfu clymog.
192. The Elms. E-bost sy'n holi a fydd y Cyngor yn cefnogi'r gwaith i adfer yr eiddo a allai fod wedi colli ei statws preswyl, a'r bwriad i ddymchwel yr hen "Holiday Shop”. Yn dilyn trafodaeth fer, cynhigiodd y Cyng. Morris y dylid ymateb i'r e-bost sy'n cadarnhau bod Cyngor Cymuned y Borth wedi trafod yr "Holiday Shop" sawl tro, a bod y palmant cul yn peri problemau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau yn benodol. Mae Cyngor Cymuned y Borth yn cefnogi'r cais cyn cynllunio ac yn croesawu mewn egwyddor unrhyw ddatblygiad arfaethedig a fyddai'n hwyluso pethau i gerddwyr a'u gwneud yn fwy diogel yn y fan hon. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Jones a phleidleisiodd yr Aelod yn unfrydol o'i blaid.
193. Ecodyfi. Manylion datganiad i'r wasg am brosiect newydd Tyfu Dyfi ac ymgynghoriad ar Deithio Llesol.
194. Gofal Cardi Care. Mae'r ymgynghoriad wedi'i gwblhau ac mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru wedi dewis cymuned Aber-porth i gydweithio â hi i gyflawni'r prosiect.
195. Cynllun Argyfyngau. Cais gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ychwanegu manylion 5-10 o wardeiniaid llifogydd at eu system reoli ar-lein os bydd argyfwng. Rhaid cwblhau a chyflwyno datganiadau GDPR yn rhan o'r gwaith hwn.
196. Ben Lake AS. Canlyniadau arolwg bancio cymunedol.
197. Ynyslas. E-bost am erydiad y cerrig mân sy'n wynebu'r môr ger un o'r morgloddiau rhwng dau argor yn Ynyslas. Cadarnhaodd y Cynghorydd Quant fod Cyngor Sir Ceredigion yn gwybod yn iawn am yr erydiad. Ategodd fod y Cyngor wedi archwilio'r fan hon ac y bydd yn llunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.
CYFRIFON
- Balans y Cyfrifon ar y 13eg o Hydref 2021
Nationwide 30229.71
Cyfrif Cymunedol 11220.04
Cyfrif Busnes Dim Rhybudd 18836.47
Cyfrif Adnau 3749.28
- Incwm
Rhenti tirlenwi ac amwynder dinesig 4616.50
CSC – Praesept – 3ydd taliad 6682.50
- Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
Robert Griffiths – torri porfa, tymor 2021 1872.00
M Walker – cyflog £522.20, costau swyddfa £17.91 540.11
Heledd Davies – Cyfieithu cofnodion mis Hydref 102.10
Jason Hines – gwaith atgyweirio ar y maes chwarae 131.78
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
CYNLLUNIO
201. Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A210849. Glan Y Môr, Stryd Fawr, y Borth. Adeiladu estyniad deulawr y tu ôl i'r eiddo. Nisa Local, y Borth. Cynigiwyd gan y Cyng. Morris ac eiliwyd gan y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd y Cynghorwyr yn unfrydol o blaid cyflwyno'r sylwadau canlynol: Er nad oes gan Gyngor Cymuned y Borth wrthwynebiad mewn egwyddor, mae ganddo serch hynny bryderon y gallai'r eiddo cyfagos ar yr ochr ogleddol golli golau a phreifatrwydd, ac y gallai gael ei fwrw i'r cysgod. Mae Cyngor Cymuned y Borth yn argymell cynnal ymweliad safle.
A210866. Meads, Ynyslas, y Borth. Estyniad cefn unllawr arfaethedig a garej a sied ar wahân. Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.
Y PARC CYCHOD
- Bydd y Cyng. Hughes yn trefnu cyfarfod gyda'r is-bwyllgor i drafod y parc cychod.
CYFARFODYDD WYNEB YN WYNEB
- Mae'r Cyng. Hughes wedi prisio'r offer, a bydd yn costio dros £1000. Mae hefyd yn argymell bod gan bob Aelod dabled wrth law yn ystod cyfarfodydd. Bydd hyn yn costio dros £1000. Awgrymodd y Cyng. Hughes y dylid ymchwilio i wahanol gwmnïau i weld beth fyddai cost y pecyn cyfan yn ogystal â'r gwaith cynnal a chadw parhaus.
CYFARFOD DRWY GYFRWNG ZOOM RHWNG CYNRYCHIOLWYR CYNGOR SIR CEREDIGION A CHYNGOR CYMUNED Y BORTH
- Cytunodd y Cyng. Hughes a'r Cyng. Jones i fod yn bresennol yn y cyfarfod Zoom i drafod y broblem lifogydd mewn mannau amrywiol yn y Borth. Byddant hefyd yn gwneud cais am well gwasanaeth bws.
MATERION Y CADEIRYDD
205. Cadarnhaodd y Cyng. Hughes fod dau ddiffibriliwr y Cyngor Cymuned wedi'u cofrestru â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a bod angen i'r Cyngor ystyried a oes ganddo ddigon o ddiffibrilwyr yn y gymuned. Caeodd y Cyng. Hughes y gatiau wrth adeilad Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a'r rhai yn y parc cychod ddydd Sul, yr 31ain o Hydref yn ystod gwyntoedd trwm, ond cafwyd problem wrth gau un o'r gatiau.
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
206. Gofynnodd y Cyng. James a ellid ystyried cael arwyddion ar Ffordd Clarach rhwng yr amlosgfa a'r eglwys gan fod cerbydau nwyddau trwm yn mynd yn sownd ar y tro clip gwallt ac ar y bont. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n sôn wrth y Cyngor Sir am y mater.
Dywedodd y Cyng. Bainbridge fod gan Ysgol Craig yr Wylfa bellach gyfleusterau meithrin ar gyfer plant teirblwydd a hŷn. Hi hefyd yw cadeirydd newydd llywodraethwyr yr ysgol. Hysbyswyd y Cyng. Bainbridge bod y polyn ar y ffrâm ddringo yn y maes chwarae wedi pydru'n wael a'i fod bellach wedi cael mynd. Gan fod hwn yn fater diogelwch, gofynnodd y Cyng. Bainbridge i Jason Hines ddiogelu'r fan hon â rhwyd ddiogelwch. Y gost oedd £131.78. Gofynnodd y Cyng. Bainbridge i'r Cyngor am gefnogaeth i ymgeisio am ragor o gyllid i gael ffrâm ddringo newydd. Bydd swm o £4000 o goffrau'r carnifal yn cael ei ddosbarthu i'r grwpiau hynny sydd wedi gwneud cais am roddion ariannol. Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn â'r gwaith y mae'r Hwb Cymunedol yn ei wneud.
Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Jones ynglŷn â Grŵp Iechyd a Gofal y Borth a gyfarfu'n ddiweddar, a chroesawodd Carol a oedd yn cynrychioli'r Cyngor Iechyd Cymuned.
Diolchodd y Cyng. Morris i Andrew Doyle am gynnal gwaith atgyweirio dros dro i wneud y rhan o'r ffrâm ddringo a ddifrodwyd yn ddiogel.
Gofynnodd y Cyng. Thomas a oedd gan y Borth unrhyw gynlluniau i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Diweddarodd y Cyng. Dalton yr Aelodau ynglŷn â’r sesiynau Cerdded er Budd Lles a gynhelir ar foreau Gwener. Gofynnodd a ellid tynnu'r baneri gyferbyn â siop Premier i lawr fel na fyddant yn cael eu difrodi yn ystod gwyntoedd cryfion. Rhoddodd ddiweddariad ynglŷn â’r ymweliad safle y bu'n rhan ohono â Chors Fochno ar y cyd â chynrychiolwyr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
207. Cynhelir Gŵyl Goffa yn y Neuadd Fawr ar yr 11eg o Dachwedd a chynhelir Gwasanaeth Cofio yn Eglwys San Mathew ddydd Sul, y 14eg o Dachwedd. Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad ynglŷn â’r sefyllfa COVID-19.
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
208. Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.25pm. Ymhlith eitemau'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 6ed o Ragfyr 2021 fydd y Parc Cychod, Arwyddion ar y Promenâd, Cyfarfodydd Wyneb yn Wyneb a diweddariad gan y Cyng. Quant ynglŷn â Cham 3 y gwaith ar yr amddiffynfa fôr. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
- Hits: 907