• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Cyfarfod - (Anghysbell) - Anghyffredin - Mis Tachwedd 2021

COFNODION CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL AR Y 19EG O DACHWEDD 2021 AM 17.30 O'R GLOCH. 
 
 

Presennol:        Cadeirydd                      H Hughes

                                                                  C Bainbridge

                                                                  R Dalton

                                                                  G. B. Jones

                                                                 A J Morris

                                                                 D Pryce Jones

                                                                 A Thomas

Yn bresennol:   Cynghorydd Sir:         R P Quant

                                                                Clerc:      M Walker

                                                               1 aelod o'r cyhoedd

 

YMDDIHEURIADAU

 209.  Y Cynghorwyr R Davies, M Griffiths, J James a D Tweedy.

CYFARPAR Y MAES CHWARAE

210. Yn dilyn gwaith atgyweirio brys diweddar ar y ffrâm ddringo yn y maes chwarae, cafodd y Cyng. Bainbridge dri dyfynbris gan wahanol gwmnïau am yr eitem o offer yr oedd ei hangen a gofynnodd am wybodaeth am y grantiau sydd ar gael. Anfonwyd yr holl wybodaeth hon at yr Aelodau cyn y cyfarfod. Ar ôl trafodaeth fer, penderfynodd y Cyngor dderbyn dyfynbris Lapsett am £19800 ar gyfer ffrâm ddringo newydd a gwaith cysylltiedig. Mae'r Cyng. Bainbridge yn bwriadu gwneud cais am grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan a ariennir drwy Lywodraeth Cymru am £10,000, a gofynnodd a fyddai Cyngor Cymuned y Borth yn ariannu'r diffyg pe na bai'n llwyddo i sicrhau mwy o arian. Cynigiodd y Cyng. Hughes fod y Cyngor yn chwilio am gyfleoedd ariannu eraill ond y byddai'n barod i ariannu unrhyw ddiffyg. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris a phleidleisiwyd yn unfrydol o'i blaid.

CAU'R CYFARFOD

 211.  Daeth y cyfarfod i ben am 18.00pm.

 

 

 

  • Hits: 794