• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Hydref 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL DROS ZOOM NOS LUN, Y 4YDD O HYDREF 2021 AM 19.00 O'R GLOCH

Presennol:      Cadeirydd:                       H Hughes        

                                                                      C Bainbridge

                                                                       R Dalton

                                                                       R Davies

                                                                      M Griffiths

                                                                      G B Jones

                                                                     A J Morris

                                                                       D Pryce Jones

                                                                        D Tweedy

Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:             R P Quant

                                        Clerc:             M Walker            

                                                               3 aelod o'r cyhoedd

YMDDIHEURIADAU

 135.   Y Cynghorwyr J James ac A Thomas.      

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

 136.  Dim.

DATGAN BUDDIANNAU

  1. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

138. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar y 6ed o Fedi. Y cynigydd oedd y Cyng. Griffiths a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

MATERION YN CODI

  1. Dim.

GOHEBIAETH

140.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

141.  Un Llais Cymru.

Pigion o'r wybodaeth ddiweddaraf - mis Medi.

Cylchlythyr Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Gweminarau gan Un Llais Cymru Gweminar a Chadwch Gymru'n Daclus.

Cynhadledd Dreth Llywodraeth Cymru.

Cadwch Gymru'n Daclus - does dim llawer o amser ar ôl i gael y pecynnau dechreuol.

Facebook Marketplace - Cynnydd yn y nifer o sgamiau sy'n digwydd.

Sesiynau hyfforddi o bell sy'n cael eu cynnal ym mis Medi/Hydref.

Ymgynghoriad agored ar Ganllawiau Arfaethedig "Egwyddorion Gweinyddu Da" a "Rheoli Cofnodion yn Dda".

Croesawu'r cyhoedd i gefn gwlad ac i'r arfordir - arolwg.

Ein Llwybrau Byw.

Uno Dros ein Planed / Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion - Un Llais Cymru.

Ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar.

Cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol newydd (TAN 15) a Map Llifogydd at ddibenion cynllunio.

Rhwydwaith Canolfannau Cymunedol: Cyfle i ddenu cyllid.

Lansio Gwobrau Ystadau Cymru 2021.

Y canllawiau diweddaraf ar gymryd rhan yn Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines - yr 2il o Fehefin 2022.

142.  Llywodraeth Cymru.

Manylion a dolenni i'r ymgynghoriadau cyfredol.

Bwletin Newid Hinsawdd.

143.  Cyngor Sir Ceredigion.

Peidiwch â cholli eich llais – annog trigolion Ceredigion i sicrhau bod eu manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol.

Cyfle i ddenu cyllid i gefnogi gofalwyr.

Croeso i Geredigion - y 'Tour of Britain'.

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol lleol dan bwysau sylweddol.

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd y camau olaf yn ei datblygiad.

Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg 2022-2032.

Lansio'r ymgynghoriad ar Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.

Lansio ymgyrch i gynyddu'r nifer o ofalwyr maeth yng Ngheredigion.

Canlyniad trist yr aflonyddu a fu ar forlo a llo bach ar arfordir Cymru.

Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir allweddol

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau amrywiaeth mewn democratiaeth.

Estynnwyd croeso diogel i fyfyrwyr yn ôl i Geredigion.

Cytunwyd ar gynnig i reoli carbon.

Asesiad Llesiant Ceredigion 2021.

Darparu ysbienddrychau er mwyn ceisio lleihau'r nifer o achosion o aflonyddu ar fywyd gwyllt. 

Llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfarfod rhwng cynrychiolwyr o'r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned - y 24ain o Dachwedd, 2021.

144.  Comisiwn Ffiniau Cymru.   Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn ar newidiadau cychwynnol arfaethedig i etholaethau Seneddol yng Nghymru.

145.  Cloudy IT.  Cynhadledd Rithwir a Darlledu Cyfarfodydd eich Cyngor.

146.  Gwasanaeth Gwaed Cymru.  Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymweld â'r Borth rhwng yr 11eg a'r 13eg o Hydref.

147.  Cymdeithas yr Iaith.  Cais i gefnogi'r alwad ar Lywodraeth Cymru i reoli'r farchnad dai.

148.  Calon: Elusen Sgrinio Calonnau a Diffibrilwyr Cymru.  Cylchlythyr.

149.  Cyfoeth Naturiol Cymru.  Gwahoddiad gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru (LIFE) - ddydd Iau, y 7fed o Hydref 2021, 10am tan hanner dydd a 2pm tan 4pm.

150.  Bwthyn Bronheulyn. Yn sgil archwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ceredigion i fur amddiffyn yr arfordir a ddifrodwyd, canfuwyd nad oedd dim cofnod swyddogol o'r mur ac nad oedd yn rhan o gynlluniau amddiffyn yr arfordir 1930 na 1970. 

151.  Dyddiadau Clinigau'r Ffliw - yr 16eg a'r 30ain o Hydref - diweddariadau a gwybodaeth am bigiadau atgyfnerthu COVID-19.

152.  Materion Llifogydd - diweddariadau defnyddiol a phethau i'w cofio i'n helpu ni i ymbaratoi ar gyfer y gaeaf.

153.  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol Drafft - Chwefror 2022.

154.  SP Energy Networks - Cynllun Ailadeiladu Llinell Uwchddaearol i'r de o Ynys Fergi.

155.  Ecodyfi.  Gwybodaeth am ddigwyddiad "Ein Cymuned, Ein Hinsawdd".

156.  Diffibriliwr.  Cais oddi wrth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i enwi "Ceidwad" dynodedig ar gyfer pob diffibriliwr.

157.  Clwb Pêl-droed Unedig y Borth.  Yn sgil cais am gopïau o'r cyfrifon (gweler Cofnod 122), a chopi o'r anfoneb am dorri'r borfa oddi wrth Rob Griffiths. Penderfynodd yr Aelodau gyfrannu £1,500 tuag at y clwb. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Davies. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.

158.  Came & Co.  Mae angen adnewyddu polisi yswiriant y Cyngor. Mae opsiwn unwaith yn rhagor i gychwyn ar gytundeb 3 blynedd arall. Y premiwm ar gyfer y flwyddyn gyntaf yw £1273.01 o'i gymharu â £1337.38 am bolisi blynyddol ar gyfer y flwyddyn sydd ar gychwyn. Cynhigiodd y Cyng. Bainbridge y dylid cychwyn ar gytundeb tymor tir. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.

159.  Plannu Cymunedol. Mae Martine Ormerod yn bwrw 'mlaen ag ymgynghoriad i drafod y syniad o gynnal gwaith plannu cymunedol yn Heol Aberwennol. Mae'n holi a fyddai'r Cyngor yn barod i gynorthwyo yn hyn o beth drwy gyfrannu £30 tuag at yr ymgynghoriad.

Cytunodd yr Aelodau i gefnogi Martine yn llawn a chynhigiodd y Cyng. Pryce Jones y dylai'r Cyngor gyfrannu £30. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Tweedy a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

160.  Fforwm Diogelwch Dŵr Ceredigion. Gwybodaeth am y gwaith a wnânt.

161.  Senedd Ieuenctid Cymru. Llythyr sy'n esbonio sut i ddod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru.

162.  Golygfan dros y Borth.  Llythyr sy'n cynnig bod y Cyngor, mewn cydweithrediad â'r awdurdodau priodol (y Llywodraeth, y Cyngor Twristiaeth??), yn ymchwilio i'r posibilrwydd o greu golygfan ar y bryn i'r de o'r Borth er mwyn i bobl stopio ac edmygu'r olygfa dros y Borth a dyffryn Dyfi. Gwirfoddolodd y Cyng. Hughes i siarad â'r tirfeddiannwr, ond nodwyd bod y cais hwn wedi'i wrthod yn y gorffennol.

163.  Mynediad i gerddwyr ar hyd Stryd Fawr y Borth.  Serch y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan Geredigion, nid yw'r sefyllfa barcio ar hyd y stryd fawr wedi gwella rhyw lawer. Yn Aberystwyth, mae'r palmentydd wedi'u lledaenu mewn rhai mannau er mwyn rhoi cyfrif am broblemau fel hyn. Byddai'n dda o beth petai modd lledaenu'r palmant y tu allan i'r siop wyliau er mwyn galluogi cadeiriau olwyn, pramiau a chadeiriau gwthio, plant ar feiciau a'r cyhoedd yn gyffredinol i symud yn hwylus yn y fan hon. Gofynnwyd i'r Clerc ateb y llythyr gan nodi bod Cyngor Cymuned y Borth yn derbyn y pryderon a godwyd ac y bydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn â'r awdurdodau.

164.  Mainc a gyflwynwyd yn rhodd i Gyngor Cymuned y Borth.  Cais oddi wrth deulu i gyflwyno mainc yn rhodd, a'i gosod o bosib ar y Graig, a hynny er cof am eu rhieni a dreuliasent eu gwyliau yn y Borth. Gofynnwyd i'r Clerc awgrymu y gallent fabwysiadu un o feinciau Cyngor Sir Ceredigion ar y prom.

165.  Gohebiaeth Arall  Clerk & Councils Direct a NBB Outdoors.

                                                               

CYFRIFON

  1. Balans y Cyfrifon ar 13 Medi 2021

        Nationwide                                                                                   30229.71

        Cyfrif Cymuned                                                                              7748.44

        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                             18836.47

        Cyfrif Adnau                                                                                       3749.28

  1. Incwm

        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 2 Medi                                  0.47       

        Cyfrif Adnau – llog gros hyd 2 Medi                                                         0.09

        Cyfrif Cymunedol – taliad gan y Cyng. Griffiths tuag at

badiau’r diffibriliwr                                                 45.00

  1. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:

        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi – Cynllun Talu Wrth Ennill

Gorffennaf, Awst, Medi                                         391.60

        H Hughes – padiau’r diffibriliwr                                                           89.93

        M Walker-cyflog £522.00, costau swyddfa £9.99                                 531.99                                                 

        Heledd Davies – Cyfieithu cofnodion mis Medi                                   132.10

        Came & Company - yswiriant y Cyngor                                            1273.01

        Clwb Pêl-droed y Borth                                                                   1500.00

        Martine Ormerod – rhodd ariannol                                                        30.00                              

Y cynigydd oedd y Cyng. Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Griffiths. Pleidleisiodd yr Aelodau'n unfrydol o blaid y cynnig.

169.  Hysbysodd y Clerc yr Aelodau fod hysbysiad a datganiadau cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar yr 31ain o Fawrth 2021 wedi'u cyhoeddi ar y wefan cyn i'r archwiliad ddod i ben yn unol â Rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. O ganlyniad i COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi mynegi barn eto am yr archwiliad.

CYFRIF BANC CYMUNEDOL

  1. Mae'r Cyng. Dalton wedi gwneud ymholiadau ynghylch newid darparwr y cyfrif banc hwn. Mae'r mater yn parhau.

CYNLLUNIO

171.  A210777.   Newid defnydd y dderbynfa a'i throi'n fflat un ystafell wely. Grand Hotel, Cambrian Terrace, y Borth, Ceredigion,

Datganodd y Cyng. Morris fuddiant. Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.

MEINCIAU

  1. Cadarnhaodd y Cyng. Quant fod yr holl feinciau bellach wedi'u paentio.

Y PARC CYCHOD

  1. Mae'r mater yn parhau.

CYFARFODYDD WYNEB YN WYNEB

  1. Mae'r Cyng. Hughes yn bwriadu gwneud ymholiadau i wybod beth fyddai cost y cyfarpar y mae ei angen i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

MATERION Y CADEIRYDD

 175.  Mae'r Cyng. Hughes wedi darllen TAN15 a'r Cynllun Llifogydd sy'n ymwneud â materion cynllunio. Bu'n rhan o'r ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar, ac mae wedi cofrestru fel ceidwad y diffibrilwyr.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

 176.  Mae'r Cyng. Dalton wedi symud yr arwyddion cŵn am fod y gwaharddiad ar gŵn bellach wedi'i godi am flwyddyn arall. Rhaid cael baneri newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chynhigiodd y Cyng. Davies y dylid prynu rhai newydd am uchafswm o £300. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig. Hysbysodd y Cyng. Dalton yr Aelodau fod y môr yn erydu'r amddiffynfa fôr gyferbyn â siop Premier.

Dewiswyd y Cyng. Bainbridge i gynrychioli'r Cyngor Iechyd Cymuned ar Grŵp Ymgynghorol Buddiannau Iechyd a Gofal y Borth. Mae Ysgol Craig yr Wylfa yn hysbysebu am aelodau staff newydd ar ôl iddi golli un aelod o'i staff. Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn â'r arian a godwyd yn ystod digwyddiadau'r carnifal.

Mae'r Cyng. Jones wedi llenwi'r holiadur iechyd a lles. Soniodd yn gyflym am y cyfarfod diweddar a gynhaliwyd gan y Grŵp Iechyd a Gofal. Gobaith y grŵp yw trefnu digwyddiad i ennyn diddordeb y cyhoedd ym mis Tachwedd, lle bydd modd i rai grwpiau gwrdd ag aelodau o'r gymuned.

Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Davies ynglŷn â Borth 2030. Soniodd hefyd am y cyfarfod diweddar y bu'n bresennol ynddo i drafod lles. Awgrymodd y Cyng. Bainbridge y dylid cael cyflwyniad 10 munud ei hyd ynglŷn â Borth 2030 ar gychwyn cyfarfod nesaf y Cyngor gan na chafodd gyfle i wrando ar y diweddariad a roddwyd mewn cyfarfod anffurfiol yn ddiweddar.

Dywedodd y Cyng. Tweedy nad yw'r llwyni sy'n tyfu rhwng croesfan y rheilffordd a'r Animalarium yn dal wedi'u torri. Mae'r Cyng. Quant wedi sôn am hyn wrth Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae hefyd angen tocio'r llwybr tuag at yr eglwys.

Er bod pawb o blaid Borth 2030, dywedodd y Cyng. Griffiths y byddai'n well gan rai pobl hŷn ddod i ddeall mwy am y prosiect mewn cyfarfod wyneb yn wyneb â chynrychiolwyr yn hytrach na dysgu am bopeth ar wefan.

 ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

 177.  Cynhelir cyfarfod nesaf PACT ar y 14eg o Hydref. Gofynnodd y Cyng. Quant i'r Aelodau fwrw golwg i weld beth oedd effaith y glaw diweddar ar y maes parcio gyferbyn â Brynowen. Hysbysodd yr Aelodau fod Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gosod gât dalu yn y toiledau gyferbyn â Cambrian Terrace.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

178.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 20.55pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun, y 1af o Dachwedd 2021 fydd cyflwyniad gan aelodau o grŵp Borth 2030, y Parc Cychod, Cyfarfodydd Wyneb yn Wyneb a materion cyfredol cyffredin i'w trafod ag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.                                                                                         

  • Hits: 882