• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Cyfarfod Anarferol - Mis Ionawr - 2021

COFNODION CYFARFOD ARBENNIG O GYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL AR Y 25AIN O IONAWR 2021 AM 19.00 O'R GLOCH.

 

Presennol:               Cadeirydd                 H Hughes
                                                                   C Bainbridge
                 R Dalton
                                                                   R Davies
                                                                   G. B. Jones
                 A J Morris
                                                                   D Pryce Jones
                                                                   D Tweedy
Yn bresennol:          Cynghorydd Sir:      R P Quant
                               Clerc:                          M Walker
                                                                  7 aelod o'r cyhoedd

YMDDIHEURIADAU

229. Y Cynghorwyr M Griffiths a J James.

BRECHU TRIGOLION Y BORTH RHAG COVID-19

230.  Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gofynnodd i'r Cyng. Ray Quant am ddiweddariad ynglŷn â’r sefyllfa hyd yma. Ar ôl y diweddariad, rhoddwyd cyfle i'r Aelodau leisio'u pryderon. Codwyd pryderon ynglŷn â rhoi'r rhaglen frechu ar waith yng Ngheredigion a'r amser yr oedd ei angen i gyflenwi'r brechlyn a'i roi i breswylwyr Gogledd Ceredigion. Nodwyd mai Caerfyrddin ac Aberteifi oedd yn gwasanaethu Ceredigion gyfan, a bod yn rhaid i'r rhai sy'n byw yng ngogledd y sir deithio i Aberteifi i gael y brechlyn. Lleisiwyd pryderon hefyd ynglŷn â'r ffaith iddi gymryd cyhyd i gael Campws Llanbadarn yn barod i weithredu fel canolfan frechu. Fodd bynnag, roedd yn galondid gwybod bod y ganolfan bellach yn cynnal y gwasanaeth hwn a bod meddygon teulu yn dechrau brechu pobl ac yn cysylltu â phobl fregus yn ein cymuned. Er bod y sefyllfa'n gwella yn ôl pob golwg, roedd y Cynghorwyr o'r farn bod y system wedi methu ac na chafwyd dim blaengynllunio ar gyfer sefyllfa debyg i hon. Cynigiodd y Cyng. Morris y dylid anfon llythyr at Elin Jones AC, Steve Moore, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac at Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol y Bwrdd Iechyd. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge.

Yn sgil cynnig gan y Cyng. Bainbridge, a eiliwyd gan y Cyng. Pryce Jones, cytunodd yr Aelodau hefyd i anfon llythyr at Feddygfa'r Borth i ddiolch iddi am ei hymdrechion wrth roi'r rhaglen frechu ar waith yn y gymuned. Cytunwyd hefyd i anfon llythyr at Gymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth am alluogi'r feddygfa i ddefnyddio'r Neuadd Gymunedol fel canolfan frechu.

CAU'R CYFARFOD

231.  Am nad oedd rhagor o faterion i'w trafod, daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben am 8.10pm.

 

  • Hits: 1049