• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Ionawr 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 4YDD O IONAWR 2021 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                     H Hughes
                                                            C Bainbridge                                                               
                                                            R Dalton                                                                                 
          J James            
          G B Jones
                                                            A J Morris
                                                            D Pryce Jones
                                                            D Tweedy                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:       R P Quant
                                        Clerc:           M Walker            
                                                            4 aelod o'r cyhoedd.
 
YMDDIHEURIADAU
 
198. Y Cynghorwyr R Davies ac M Griffiths.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
199.  Dim.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
200. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
201. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar 7 Rhagfyr 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Tweedy. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
202. Cau'r ffordd yn Nôl-y-bont.  Cofnod 174.  Mae'r mater yn parhau.
 
203. Mainc wedi torri yn Heol Aberwennol.  Cofnod 175.  Rhoddwyd sylw i’r mater hwn yn adroddiad y Cynghorydd Sir.
 
GOHEBIAETH
 
204.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
 
205.  Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. Ni chodwyd dim materion.
 
206.  Gohebiaeth Arall  Ecodyfi, Prosiect 'Rural Reach' Cyngor ar Bopeth, Cylch yr Iaith a Chyfarchion y Tymor oddi wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Ni chodwyd dim materion ac nid oedd angen cymryd dim camau.
 
207.  Swyddfa Archwilio Cymru.  Mae dogfen wedi'i chreu sy'n rhoi gwybodaeth am y rhaglen tair blynedd newydd i archwilio cynghorau tref a chymuned. Cynhelir archwiliad sylfaenol ar Gyngor Cymuned y Borth yn 2020-21 ac yn 2022-23, a chynhelir archwiliad llawn yn 2021-22.
 
208.  Mynediad i'r traeth i bobl anabl .  Mae ymholiad ynghylch mynediad i'r traeth i bobl anabl ym mhen gogleddol y pentref wedi'i anfon at swyddogion y Gwasanaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio yng Nghyngor Sir Ceredigion, a hynny am fod rheoli traethau yn un o'r swyddogaethau’r gwasanaeth hwnnw.
 
209.  Cais am Rodd Ariannol  Y Tincer. Bydd yr holl geisiadau am roddion ariannol yn cael eu trafod ym mis Mawrth.
 
210.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth.  Cais am yr £8,000 a neilltuwyd yn y gyllideb i gynnal a chadw'r Neuadd Gymunedol. Cynigiodd y Cyng. Jones y dylid talu'r £8,000 yn llawn. Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cyng. James a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.
 
211.  Ysgol Graig yr Wylfa.  Cais am y £2,000 a neilltuwyd yng nghyllideb 2020/21. Defnyddir yr arian i sicrhau y gall y Clwb Brecwast barhau yn yr ysgol. Cynigiodd y Cyng. Morris y dylid talu'r £2,000. Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cyng. Pryce Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid.
 
212.  Peidio â graeanu a rhoi halen ar Ffordd Clarach.  Daeth llythyr i law oddi wrth breswylydd a oedd yn poeni am y ffaith nad oedd Ffordd Clarach wedi'i graeanu a bod gwir beryg y gallai rhywun lithro a chael dolur ar wynebau rhewllyd, yn enwedig gan nad oes palmentydd ar hyd y darn penodol hwnnw o'r ffordd. Cytunwyd i anfon llythyr at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn iddo ystyried graeanu'r ffordd unwaith eto.
 
213.  Network Rail.  Daeth llythyr i law oddi wrth Network Rail a oedd yn hysbysu'r Cyngor y byddant yn fuan yn cloi'r gatiau mynediad i gerbydau ar y groesfan breifat yng Nghapel Seion.
 
CYFRIFON
 
214. Balans y cyfrifon ar 13 Rhagfyr 2020
        Nationwide                                                                                      30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                                           28,411.29
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                          15,341.21
        Cyfrif Adnau                                                                                     3,669.01
 
215. Incwm 
        Cyfrif Adnau - llog gros hyd 3 Rhagfyr                                                 0.09
        Cyfrif Cymunedol - rhent Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol
y Badau Achub (yr RNLI)                                                                          500.00
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd 3 Rhagfyr                      0.38
 
216. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:    
        L A Griffiths – Arwyddion y Parc Cychod                                       427.68   
        H Hughes – 2 fatri ar gyfer y diffibrilwyr                                          368.79
        CSC – contract glanhau'r toiledau                                                  5,400.00
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill
Hydref, Tachwedd a Rhagfyr                                                                     391.60
        Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth - y cyllid
ar gyfer y Neuadd Gymunedol                                                               8,000.00
        M Walker-cyflog £522.00,  costau swyddfa £17.79                          539.79
        Ysgol Graig yr Wylfa – rhodd ariannol                                          2,000.00                                      
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Rhagfyr                            77.60
 
Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
    
CYNLLUNIO
 
217.  Cais am Ganiatâd Cynllunio.
Dim.
 
CYLLIDEB A PHRAESEPT
 
218.  Dosbarthodd y Clerc y ffigurau gwariant a'r balans diweddaraf hyd at yr 31ain o Rhagfyr 2020, ynghyd â'r cynllun ariannol ar gyfer 2021/22 a gyflwynodd y Cyng. Quant mewn manylder. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ar gyfer 2021/22 fel a ganlyn:
 
Cyflog y Clerc                                      7,990.00
Costau Swyddfa                                      200.00
Cronfa Arian Rhodd y Clerc                    80.00
Yswiriant                                             1,700.00
Lwfans y Cadeirydd                                200.00
Cynnal a Chadw                                    3,630.00
Gwaith Cynnal a Chadw’r Gaeaf            200.00
Amwynderau – Refeniw’r Neuadd      8,000.00
Cyfleusterau Cymunedol a
Chelfyddydol                                        2,400.00
Rhoddion Ariannol                               2,500.00
Amrywiol                                               500.00
Arian wrth gefn                                    1,000.00
Ffi Archwilio                                          350.00
Cyfieithu                                              1,200.00
Cadw'r toiledau wrth ymyl yr RNLI yn
agored dros y gaeaf                               4,500.00
Ysgol Craig yr Wylfa                            2,000.00
 
                                       Cyfanswm: £36,450.00 
 
219.  Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ac i osod y praesept ar 55%, sy'n gyfystyr â £20,047.50. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyng. Quant am ei gymorth wrth baratoi ffigurau'r gyllideb.
 
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
 
220.  Bydd eitem ar agenda cyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth i drafod yr Eisteddfod.
 
Y MAES CHWARAE
 
221.  Cymeradwywyd £8,550 o gyllid grant ar gyfer siglen i rieni, plant bach a babanod. Cymeradwywyd grant o £5,000 y llynedd i gael siglen â dwy fainc a siglen fasged. Y gobaith yw y bydd y ddwy eitem yn cael eu gosod ar yr un pryd. Mae cwmni Lappsett wedi dyfynnu £1,800 + TAW ar gyfer y gwaith atgyweirio yn sgil adroddiad ROSPA, a chymeradwyodd y Cyngor gais am grant arall i wneud y gwaith hwnnw
 
Y PARC CYCHOD
 
222.  Mae'r mater yn parhau.
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
223.  Mae'r mater yn parhau.
 
MYNEDIAD I BOBL ANABL I'R TRAETH
 
224.  Gweler cofnod 208. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael cadeiriau olwyn arbennig sydd ag olwynion mawr iawn a fydd yn gallu mynd ar y traeth. Holodd y Cyng. Jones a fyddai modd i'r Borth gael un o'r cadeiriau hyn i aelodau o'r cyhoedd sy'n anabl.
                                     
MATERION Y CADEIRYDD
 
225.  Tynnwyd sylw'r Cyng. Hughes at y ffaith bod nifer o blaciau coffa wedi ymddangos ar sawl mainc yn y pentref ac ategodd y dylid cael polisi cadarn o ran gosod placiau ar feinciau. Awgrymodd y dylid cynnal archwiliad o bob mainc ac y dylid cael rhaglen waith i'w hatgyweirio/eu paentio, ac ati. Bydd y mater hwn ar agenda cyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth. Mae'r Cyng. Hughes wedi cytuno i fwrw golwg ar y padiau ar y diffibrilwyr. Mae'r gatiau y mae’r RNLI yn eu defnyddio i fynd ar y traeth yn cael eu cadw ar agor ar brydiau, a chytunwyd i ddod o hyd i ddau berson penodol i sicrhau bod y gatiau ynghau pan fydd darogan llanw uchel.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
226.  Bu'r Cyng. Bainbridge yn bresennol mewn gweithdy diweddar a gynhaliwyd gan O'r Mynydd i'r Môr. Bu hefyd yn bresennol mewn cyfarfod i drafod Gorwelion.
Dywedodd y Cyng. Pryce Jones fod draen wedi'i blocio gyferbyn â siop Premier.
Hysbysodd y Cyng. Jones yr Aelodau fod Martine Ormerod yn gweithio â grŵp o bobl hŷn a'i bod yn holi a fyddai modd i'r grŵp hwnnw ofalu am welyau blodau nad oeddent yn cael gofal. Awgrymodd y Cyng. Dalton y gallent ofalu am y ddau wely blodau gyferbyn â siop Premier. Bydd pob myfyriwr sy'n dychwelyd i Aberystwyth ar ôl gwyliau'r Nadolig yn cael prawf Covid a bydd yn rhaid iddynt hunanynysu os byddant yn cael canlyniad positif.
Holodd y Cyng. James ynglŷn â'r gwasanaeth casglu sbwriel.
Crybwyllodd y Cyng. Tweedy fod y Gwasanaeth Prawf yn chwilio am brosiectau o gwmpas y pentref.
Awgrymodd y Cyng. Dalton y dylid anfon cerdyn at Helen Williams i'w llongyfarch ar ôl iddi gael ei chynnwys ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd.
 
Cyfeiriodd y Clerc at y lle gwag sy'n dal i fod ar y Cyngor. Bydd y mater hwn yn cael ei gynnwys ar agenda'r cyfarfod y mis nesaf.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
227.  Amlinellodd y Cyng. Quant y ffigurau diweddaraf o ran y coronafeirws ac ati. Mae wedi cael hyd i estyll ar gyfer y fainc a oedd wedi torri yn Heol Aberwennol. Rhoddodd ddiweddariad cryno am y gwaith ar y Neuadd Gymunedol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau glanhau'r ffosydd o gwmpas y caeau chwarae. Gofynnodd y Cyng. Quant am lythyr oddi wrth Gyngor Cymuned y Borth i gefnogi Biosffer Dyfi. Mae'r Biosffer wrthi'n ymgeisio am grant "Adferiad Gwyrdd" y Loteri.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
228.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.05pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 1 Chwefror 2021 fydd y Swydd Wag ar y Cyngor, Ffosydd, y Maes Chwarae, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar hyd Stryd Fawr y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.                                                        
 
  • Hits: 1052