• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Mawrth 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 1AF O FAWRTH 2021 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:         Cadeirydd:                          H Hughes
                                                                       C Bainbridge
R Dalton
                                                                       R Davies
                                                                      M Griffiths                                                                              
J James          
G B Jones
                                                                       A J Morris
                                                                       D Pryce Jones
                                                                       D Tweedy                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:                  R P Quant
                                        Clerc:                      M Walker            
                                                                        6 aelod o'r Cyhoedd. 
YMDDIHEURIADAU
 
258.  Dim.
 
CYFLWYNIAD GAN PETER SKITT - CYFARWYDDWR SIROL BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA
 
259.  Dechreuodd Mr Skitt drwy gyflwyno ef ei hun. Ymunodd â'r cyfarfod i esbonio ei fod wedi dewis y Borth fel safle peilot er mwyn ymchwilio i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol poblogaeth dalgylch meddygon teulu'r Borth. Mae'n awyddus i gael grŵp o oddeutu 10-12 o bobl ynghyd i fod yn rhan o'r cynllun ac i gynrychioli'r boblogaeth gyfan. Eu gwaith fydd siarad â phreswylwyr y Borth, gwrando arnynt a dod i wybod beth yw eu hanghenion. Yna, bydd y data yn cael ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth. Mae Cyngor Cymuned y Borth wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi'r cynllun. Dywedodd Mr Skitt y byddai'n rhoi diweddariadau rheolaidd am gynnydd y cynllun a gofynnodd am berson cyswllt yn y Cyngor Cymuned. Gofynnodd y Cyng. Hughes i'r Cyng. Bryn Jones fod yn berson cyswllt.
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
260.  Mae Rory Wilson yn poeni am oryrru ym mhen gogleddol y pentref.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
261. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
262. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar 1 Chwefror 2021. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
263. Mainc wedi torri yn Heol Aberwennol.  Cofnod 235. Penderfynwyd neilltuo hyd at £350 i wneud y gwaith hwn. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes, yr eilydd oedd y Cyng. Jones a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
GOHEBIAETH
 
264.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
 
265.  Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. Ni chodwyd dim materion.
 
266.  Gohebiaeth Arall.   Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adolygu'r Fframwaith ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.
 
267.  Ceisiadau am roddion ariannol.  Cais a ddaeth i law'r Cyngor i gyfrannu cyllid cyfatebol am dair blynedd tuag at Hwb Cymunedol y Borth am fod yr Hwb yn bwriadu cyflwyno cais am gyllid Pobl a Llefydd y Loteri Genedlaethol ddechrau Mawrth. Datganodd y Cynghorwyr Bainbridge, Hughes a Dalton fuddiant. Cytunwyd y byddai'r cais hwn yn cael ei ystyried fel yr eitem olaf ar yr agenda ar ôl i’r tri Aelod adael y cyfarfod. Yn dilyn trafodaeth fer, cynigiodd y Cyng. Jones bod y Cyngor yn cyfrannu £500 bob blwyddyn am dair blynedd. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James a phleidleisiodd yr Aelodau a oedd yn bresennol yn unfrydol o'i blaid.
                     
268.  Rhoddion ariannol.  Daeth llythyr i law oddi wrth Gymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth i ddiolch i’r Cyngor am y cyllid grant blynyddol.
 
269.  Gwelyau blodau. Cais oddi wrth Hwb Cymunedol y Borth i ddod yn gyfrifol am wely blodau. Mae Martine Ormerod a Hwb Cymunedol y Borth wedi gwirfoddoli i ddod yn gyfrifol am y gwelyau blodau nad ydynt yn cael gofal ar hyn o bryd.
 
270.  Graeanu ar hyd Ffordd Clarach.  Ateb Cyngor Sir Ceredigion i lythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned y Borth ynghylch y ffaith nad yw Ffordd Clarach yn cael ei graeanu.
 
271.  Sbwriel.  Daeth llythyr i law oddi wrth ferch ifanc a ofynnai i'r Cyngor godi ymwybyddiaeth ynghylch effaith taflu sbwriel ar yr amgylchedd ac i annog pobl i godi'u sbwriel. Awgrymodd y Cyng. Davies y dylid cynnal cystadleuaeth i greu arwydd. Awgrym arall oedd trefnu sesiwn codi sbwriel i Aelodau'r Cyngor a thrigolion y gymuned. Cytunwyd i anfon ateb at Iyla a amlinellai awgrymiadau'r Cyngor. Cytunwyd i ofyn iddi hefyd am ei chaniatâd i'r Cyngor gael postio'i llythyr ar Facebook. 
 
272.  Diogelu Cymru. Nodyn i atgoffa'r cyhoedd i beidio â gwahodd pobl i'w cartrefi i wylio'r gêm rygbi.
 
273.  Age Cymru.  Cais i hyrwyddo eiriolaeth lefel isel yn y gymuned.
 
274.  Sustrans Cymru.  Dolen i fap drafft o rwydwaith isadeiledd cerdded a seiclo'r dyfodol yng Ngheredigion.
 
275.  Cyfrifiad 2021.  Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i lenwi ffurflen y Cyfrifiad.
 
CYFRIFON
 
276. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Chwefror 2021
        Nationwide                                                                                   30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                                        20,444.15
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                       15,341.21
        Cyfrif Adnau                                                                                   3.669.01
 
277. Incwm 
        Dim.
 
278. GwariantPenderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:        
        M Walker-cyflog £522.00,  costau swyddfa £9.99                          531.99                               
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Chwefror                        68.60
        Mynwent Capel y Garn                                                                      50.00
        Ambiwlans Awyr Cymru                                                                  150.00
        Y Tincer                                                                                               50.00
        Canolfan Deuluol y Borth                                                                500.00
 
Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
279.  Hysbysodd y Clerc yr Aelodau bod y siec am £2000 (rhif 201818) a oedd yn daladwy i Ysgol Craig yr Wylfa wedi'i dychwelyd a bod siec newydd (rhif 201824) am yr un swm wedi'i gwneud yn daladwy i Gyngor Sir Ceredigion.
    
CYNLLUNIO
 
280.  Cais am Ganiatâd Cynllunio.
A210071.  Mân newid i ganiatâd cynllunio A200016 (cynlluniau diwygiedig). Llain o dir ger Silver Ridge. Ffordd y Fulfran, y Borth. Gohiriwyd yr eitem hon tan ddiwedd y cyfarfod am fod y Cyng. Bryn Jones wedi datgan buddiant mewn gohebiaeth at y Clerc. Gadawodd y cyfarfod cyn i'r Cyngor drafod y cais. Trafodwyd y cais ac ni chafwyd DIM SYLWADAU na GWRTHWYNEBIADAU.
 
RHODDION ARIANNOL
 
281.  Ystyriwyd yr holl roddion oddi wrth wahanol fudiadau a chynhigiodd y Cyng. Jones y dylid cyfrannu tuag at y canlynol. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig:
 
Mynwent Capel y Garn                         £50.00
Ambiwlans Awyr Cymru                      £150.00
Y Tincer                                                  £50.00
Canolfan Deuluol y Borth                     £500.00
 
LLE GWAG AR Y CYNGOR.
 
282.  Cadarnhaodd y Clerc bod hysbysiadau wedi'u rhoi ar bob hysbysfwrdd ynglŷn â'r lle gwag ar y Cyngor a bod dau gais wedi dod i law. Tynnodd un o'r ymgeiswyr ei chais yn ôl cyn y cyfarfod a chynhigiodd y Cyng. Bainbridge y dylid gwahodd yr unig ymgeisydd, sef Mrs Amy Thomas, i gyfarfod nesaf y Cyngor i'w chyfethol yn Aelod. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
LLIFOGYDD A FFOSYDD
 
283.  Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau bod y ffos wedi'i chlirio rhwng y cae pêl-droed a'r golchdy. Mae un o gynrychiolwyr Dŵr Cymru wedi ymweld â Chae Gwylan yn sgil llifogydd diweddar o ganlyniad i law trwm. Ym marn y cynrychiolydd, mae'r broblem yn cael ei hachosi gan ddŵr sy'n cronni o gwmpas yr orsaf bwmpio ac yna'n gorlifo. Ni all yr orsaf bwmpio ymdopi â hyn.
 
Y MAES CHWARAE
 
284.  Mae'r mater yn parhau.
 
Y PARC CYCHOD
 
285.  Mae'r mater yn parhau.
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
286.  Mae llythyr oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ynghylch cyflwyno parthau diogel yn y Borth yn gofyn i'r Cyngor ystyried gosod rhwystrau neu faneri yn y llefydd parcio dynodedig neu ofodau cyfatebol ar y ffordd mewn rhai mannau. Mae'r Cyng. Quant wedi trefnu cwrdd â'r Cyng. Pryce Jones a'r Cyng. Morris ar yr 2il o Fawrth i gerdded drwy'r pentref i benderfynu ar y mannau y dylid eu troi'n barthau diogel.
                                     
MATERION Y CADEIRYDD
 
287.  Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cyng. Margaret Griffiths yn ôl i'r Cyngor yn dilyn salwch. Hysbysodd yr Aelodau bod grŵp llywio cymunedol a fydd yn annibynnol ar Gyngor Cymuned y Borth wedi'i sefydlu i ystyried gweledigaeth hirdymor dros 10-15 mlynedd ar gyfer y Borth. Bydd y Cyng. Rhydian Davies a chynrychiolydd o Gyngor Cymuned y Borth yn cadeirio'r pwyllgor. Byddai'r grŵp yn ystyried y gwahanol gynigion yr hoffent eu dwyn gerbron y Cyngor.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
288.  Soniodd y Cyng. Bainbridge am brosiect Partneriaeth Natur Ceredigion, Cynhadledd Chwarae a chyfarfod diweddar i drafod Gorwelion. Cynhaliwyd cyfarfod i drafod y carnifal a thrafodwyd y posibilrwydd o gynnal rhai digwyddiadau. Ymatebodd y Cyng. Jones drwy ddweud nad oedd bwriad cynnal digwyddiadau mawr yng Ngheredigion yr haf hwn.
Hysbysodd y Cyng. Griffiths y cyfarfod bod llawer o orchuddion tyllau archwilio wedi dod yn rhydd ar hyd y brif stryd. Dywedodd y Cyng. Hughes y byddai'n sôn wrth yr awdurdod perthnasol am y mater hwn.
Soniodd y Cyng. Dalton bod y draeniau'n llawn ar y stryd fawr. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai ef, ynghyd â'i gyd-gynghorwyr, yn bwrw golwg arnynt pan fyddant yn cwrdd drannoeth i ystyried y parthau diogel.
Cafwyd sylwadau gan y Cyng. Morris ynglŷn â'r goleuadau ar y brif stryd a gofynnodd a oeddent ynghynn drwy'r nos. Soniodd am y llifogydd yng Nghae Gwylan a'r rhesymau posib pam bod hyn yn digwydd dro ar ôl tro.
Dywedodd y Cyng. Pryce Jones y byddai'r gwaith ar y meini copa gyferbyn â Pebbles yn cael ei wneud y mis hwn. Mae pobl yn poeni am y fandaleiddio sy'n digwydd yn y Gerddi Cymunedol. Gofynnodd y Cyng. Pryce Jones a oedd y fan arlwyo awyr agored newydd yn y Borth wedi cael pob trwydded angenrheidiol i fasnachu. Cadarnhaodd y Cyng. Quant bod y fan wedi mynd ati i sicrhau pob trwydded a thystysgrif, a bod y perchennog yn gweithredu'n unol â'r gofynion cyfreithiol. Yn sgil ymholiad, cadarnhawyd na fyddai angen caniatâd cynllunio ar y fan oni bai bod y perchennog yn bwriadu masnachu am fwy na 28 diwrnod y flwyddyn. Soniodd y Cyng. Pryce Jones am y bwriadu i gynnal gŵyl gerddorol yn y Borth ddiwedd yr haf.
Gofynnodd y Cyng. Davies a oedd pwyllgor y neuadd yn cwrdd ar hyn o bryd. Atebodd y Cyng. Quant drwy sôn nad oedd Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth wedi bwriadu cynnal cyfarfodydd gan mai dim ond ar gyfer sesiynau brechu a rhoi gwaed yr oedd y neuadd yn cael ei hagor ar hyn o bryd.
Roedd yn bleser gan y Cyng. James gadarnhau bod Cyngor Sir Ceredigion wedi glanhau'r holl dyllau archwilio ar hyd Ffordd Clarach.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
289.  Rhannodd y Cyng. Quant y ffigurau a'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19. Gwyddai hefyd am geir yn goryrru a gofynnodd am rifau cofrestru'r ceir fel y gellir sôn am y broblem wrth yr awdurdodau.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
290.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 10.00pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 12fed o Ebrill 2021 fydd Cyfethol Aelod Newydd i Wasanaethu ar y Cyngor, Llifogydd a Ffosydd, y Maes Chwarae, Meinciau, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar Stryd Fawrth y Borth.  Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
 
  • Hits: 940