• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Tachwedd 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, YR 2IL O DACHWEDD 2020 AM 19:00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:            H Hughes
                                                   C Bainbridge                                                      
                                                   R Dalton                                 
                                                   R Davies
              J James            
              G B Jones
                                                   A J Morris
                                                   D Pryce Jones
                                                   D Tweedy                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:  R P Quant
                        Clerc:                   M Walker            
                                                      6 aelod o'r Cyhoedd. 

YMDDIHEURIADAU

131. Y Cyng. M Griffiths.

CYFLWYNIAD GAN HELEN WILLIAMS YNGLŶN Â CHAEL HWB CYMUNEDOL I'R BORTH

132.  Rhoddodd Mrs Helen Williams ddiweddariad ynglŷn â chais i gronfa Pobl a Lleoedd Cronfa'r Loteri ac ynglŷn â'r broses i sefydlu Hwb Cymunedol y Borth. Gofynnodd Helen am lythyr oddi wrth y Cyngor i gefnogi'r cais. Am fod y Cynghorwyr Hughes a Dalton yn ymddiriedolwyr y Ganolfan Deuluol, a chan iddynt ddatgan buddiant oherwydd hynny, penderfynwyd gohirio'r mater tan ddiwedd y cyfarfod pan ofynnid i'r ddau ohonynt adael.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

133.  Dim.

DATGAN BUDDIANNAU

134. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

135. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd o bell ar 5 Hydref 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bryn Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

MATERION YN CODI

136.  Cyfarpar Diogelu Personol i’r Ganolfan Deuluol.  Cofnod 103.  Mae'r Cyng. Hughes wedi prynu bocs o fenig a masgiau tafladwy i'r Ganolfan Deuluol fel y cytunodd y Cyngor. Y gost oedd £18.98.

GOHEBIAETH

137.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

138.  Un Llais Cymru.  Cylchlythyr mis Medi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Cymorth Cynllunio Cymru - hyfforddiant ar-lein.

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Chwefror 2021 a fydd yn destun ymgynghoriad. Dylid ymateb i'r ymgynghoriad erbyn y 23ain o Dachwedd.

Helpu Cynghorau i sicrhau gwell mynediad i bobl o'r gymuned fyddar.

Manylion rhaglenni gweminar ar gyfer 2020/2021.

Gwybodaeth am linell gymorth newydd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a fydd yn cael ei rhedeg fel cynllun peilot am 6 mis i gychwyn ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa argyfwng y sector gwirfoddol.

Ymgynghoriad ar Sefydlu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021.

Manylion ymgynghoriad i sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol i gyflawni rhai swyddogaethau awdurdodau lleol ar y cyd.

Manylion sesiynau hyfforddi o bell ym mis Hydref a Thachwedd.

Cyhoeddiad ar ddiweddariad i bolisi gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol sy'n ymwneud â phrynu gorfodol.

Strategaeth ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol newydd yng Nghymru.

Diweddariad ar Ddigwyddiadau'r Cofio 2020.

Manylion swydd wag Clerc y Dref a Rheolwr Cyllid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.

Canlyniad arolwg o bell a gynhaliwyd gan Un Llais Cymru i asesu barn Cynghorau Tref a Chymuned ynglŷn ag effeithiolrwydd cyfarfodydd o bell.

Mae gwelliant i Reoliadau Gwastraff 2020 wedi'i roi gerbron Llywodraeth Cymru.

Cylchlythyr Etholiadol Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth am Fideo gynadledda StarLeaf.

139.  Llywodraeth Cymru.  Rhifyn mis Hydref Cylchlythyr Cyfoeth Naturiol Cymru.

140.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion cyhuddiadau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a wnaed yn erbyn busnes bridio cŵn ger Llandysul.

Gwybodaeth am fridiwr cŵn o Dalsarn a gafwyd yn euog o bedwar cyhuddiad a oedd yn ymwneud â'i drwydded bridio cŵn.

Mae ieuenctid Aberystwyth wedi creu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Ymgynghoriad ar Ddatganiad Polisi Trwyddedu Ceredigion 2021.

Gŵyl yr Enfys - dathliad o greadigrwydd Ceredigion.

Rhybudd ynglŷn â chau'r ffordd dros dro yn 1 Gwastad House, y Borth.

Rhestr adnoddau sy'n cynnwys gwybodaeth a goladwyd ar gyfer Gogledd Ceredigion i gynorthwyo â siopa a chefnogaeth ac ati yn ystod y cyfnod clo.

Mae Panel yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn gofyn i breswylwyr am eu barn ynglŷn â Chamerâu Cylch Cyfyng.

Gofynnir i breswylwyr Ceredigion ac ymwelwyr â'r sir am eu sylwadau ynglŷn â'r Parthau Diogel.

Manylion lansiad calendr Cysylltu â Charedigrwydd.

Hwb Llesiant y Gaeaf i gefnogi preswylwyr Ceredigion.

Gwybodaeth am lansiad Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc.

141.  Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.  Cais am ddiweddariad ynglŷn â'r diffibriliwyr.

142.  Playlist for Life.   Gwybodaeth am elusen gerddoriaeth i gefnogi pobl sydd â dementia o'r enw Playlist for Life. Mae Playlist for Life yn helpu i greu rhestrau cerddoriaeth ac atgofion cerddorol i bobl sy'n byw â dementia ac sydd wedi bod yn eu gwarchod eu hunain yn ystod y cyfnod clo.

143.  Traws Link Cymru.  Gwybodaeth am goridor strategol newydd i Orllewin Cymru a'r bwriad i ailagor y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin.

144.  Fields in Trust.  Ailbrisio Parciau a Mannau Gwyrdd yng Nghymru.

145.  Cais am Rodd Ariannol  Cerebral Palsy Cymru ac Apêl Radio Bronglais. Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth.

146.  Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i stormydd mis Chwefror 2020.  Gellir gweld adolygiad o'r holl ddata a gasglwyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

147.  Ecodyfi.  Hysbyseb swydd i benodi Swyddog Prosiect yn sgil cais llwyddiannus i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

148.  Cau Pont.  Llythyr oddi wrth breswylydd pryderus sy'n hysbysu'r Cyngor bod Network Rail yn bwriadu ailwampio pont Dôl-y-bont ac y bydd y gwaith hwn yn digwydd dros 4 wythnos gan gychwyn ar y 27ain o Dachwedd. Dywedodd y Cyng. Hughes y byddai'n holi a fyddai'r ffordd ynghau yn ystod y cyfnod hwn am nad oedd dim sôn am gau'r ffordd yn y llythyr oddi wrth Network Rail.

149.  Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r ddogfen yn crynhoi'r ymatebion i ymgynghoriad diweddar ar drefniadau archwilio cynghorau tref a chymuned yn y dyfodol, ac mae'n esbonio trefniadau archwilio'r dyfodol o ran gwneud cais am archwiliad o gyfrifon 2020/21 ac yn y dyfodol.

CYFRIFON

150. Balans y cyfrifon ar 13 Hydref 2020
        Nationwide                                                                     30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                         17,805.22
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                        15,340.83
        Cyfrif Adnau                                                                    3,668.92
151. Incwm 
 Morris & Bates-Safle Amwynder Dinesig a
Thirlenwi'r Borth                  4,616.50 
 Cyngor Sir Ceredigion - 3ydd rhandaliad
                                                    praesept 2020/21                 7,290.00   
152. GwariantPenderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol: 
        M Walker-cyflog £522.00,  costau swyddfa 7.99                 530.19           
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Hydref                 84.70
        H Hughes – Cyfarpar Diogelu Personol i’r
                                                    Ganolfan Deuluol                        18.98

Y cynigydd oedd y Cyng. Bryn Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau'n unfrydol o blaid y cynnig.

CYNLLUNIO

153.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.

A200789.  Datblygiad preswyl ar gyfer 15 annedd. Cadwyd pob mater yn ôl ac eithrio mynediad a chynllun y safle. Tir yn Lôn Gwastad, y Borth. Cynigiodd y Cyng. Morris y dylai'r Cyngor gyflwyno'r sylwadau canlynol. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Davies: Mae aelodau Cyngor Cymuned y Borth yn croesawu'r cais hwn. Fodd bynnag, mae dŵr wyneb a gallu'r garthffos i ymdopi yn achosi pryder, (sydd oll yn faterion i Gyfoeth Naturiol Cymru), yn ogystal â'r llwybrau mynediad/gadael.

A200830.  Estyniad i gefn byngalo er mwyn creu ystafell aml-bwrpas / ystafell arddio / orendy. Hefyd, ychwanegu ystafell ymolchi en-suite at yr ail ystafell wely bresennol. Cornerways, 6 Min y Don, Ynyslas, y Borth. Dim sylwadau.

A200858.  Swyddfa safle a stordy arfaethedig. Parc Carafanau Glanleri, y Borth. Dim sylwadau.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

154.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Pryce Jones ynglŷn â'r arian a godwyd hyd yma, sef £4784.50. Roedd Cymuned y Borth (nid Cyngor Cymuned y Borth) wedi addo codi £5000 tuag at yr Eisteddfod a chytunwyd y byddai Cyngor Cymuned y Borth yn cyfrannu unrhyw swm a fydd yn brin o'r targed (gweler cofnodion 301/18, 69/19, 133/19). Gofynnodd y Clerc i'r Cyng. Pryce Jones am lythyr sy'n cadarnhau faint o arian y mae'r pwyllgor wedi'i godi hyd yma.

Y MAES CHWARAE

155.  Mae'r maes chwarae yn dal i fod ynghau ac nid yw'r gwaith atgyweirio wedi digwydd eto. Nid yw'r cyfarpar newydd wedi'i osod yno 'chwaith. Bydd y Cyng. Bainbridge yn cysylltu â'r cwmni sy'n gyfrifol am hyn i gadarnhau pryd yn union y bydd y cyfarpar newydd yn cyrraedd. Cafwyd adroddiad manwl gan y Cyng. Morris yn sgil cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaeau Chwarae Uppingham i drafod y gwaith atgyweirio yr oedd angen ei wneud ar siambr archwilio'r bibell godi sydd wedi'i lleoli yn y cae pêl-droed. Bydd nodiadau'r cyfarfod yn cael eu hanfon at bob Cynghorydd.

Y PARC CYCHOD

156.  Mae'r mater yn parhau. 

CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH

157.  Diolchodd y Cyng. Hughes i'r Cynghorwyr Bainbridge a Dalton am ychwanegu'r "2 fetr" at yr arwyddion stryd. Mae goryrru yn parhau i fod yn broblem drwy'r pentref.                                

MATERION Y CADEIRYDD

158.  Trafodwyd goryrru a Chyfarpar Diogelu Personol i’r Ganolfan Deuluol eisoes.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

159.  Pwysleisiodd y Cyng. Dalton fod yn rhaid trwsio'r meini copa gyferbyn â Pebbles cyn gynted ag y bo modd. Awgrymwyd y gellid holi'r contractwyr sy'n gweithio ar Orsaf Reilffordd Bow Street ac sy'n aros yn York House a fyddent yn fodlon ymgymryd â'r gwaith hwn. Dewis arall fyddai holi adeiladwr lleol. Mae'r Cyngor wedi neilltuo £500 tuag at y gwaith hwn. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Dalton. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y cynnig.

Clywyd gan y Cyng. Bainbridge am Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Fforwm Pobl Hŷn y bu'n bresennol ynddo. Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor Iechyd Cymuned ar y 4ydd o Dachwedd a chynhelir cynhadledd ddeuddydd 'Gofal yn y Gymuned Wledig' ar y 10fed a'r 11eg o Dachwedd. Cyfarfu llywodraethwyr Ysgol Craig yr Wylfa yn ddiweddar a phenodwyd cynorthwyydd dosbarth newydd. Mae Gorwelion bellach yn Fan Diogel 24 awr y dydd.

Soniodd y Cyng. Pryce Jones am y fainc sydd wedi torri ar Heol Aberwennol. Bydd y Clerc yn edrych i weld a yw'r fainc hon ar restr feinciau Cyngor Cymuned y Borth. Mae baner y Ddraig Goch gyferbyn â siop Premier wedi diflannu. Cadarnhaodd y Cyng. Dalton ei bod wedi rhwygo. Mae'r holl bolion baneri yn y fan honno dan berchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion.

Soniodd y Cyng. James fod dŵr yn llifo i lawr y ffordd ger Rhyd Meirionnydd ar Ffordd Clarach. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n sôn wrth y Cyngor Sir am y mater. Bydd y Cyng. James yn archebu'r goeden Nadolig yn ôl yr arfer.

Soniodd y Cyng. Davies fod goryrru yn broblem barhaus yng Nglanwern.

Dywedodd y Clerc iddi gael ymholiad ynghylch hen byst yr amddiffynfa fôr a gofynnwyd iddi a fyddai modd eu prynu.  Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n holi Cyngor Sir Ceredigion ynghylch y mater.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

160.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r sefyllfa ddiweddaraf a'r ystadegau sy'n ymwneud â'r pandemig cyfredol. Mae Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yn Aberaeron yn cael ei gloriannu ar hyn o bryd. Anogodd y Cyng. Quant y Cynghorwyr i gwblhau'r arolwg o'r Parthau Diogel. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio Camerâu Cylch Cyfyng ar fin cychwyn yn y sir a gohiriwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a oedd i fod i ddigwydd ar yr 8fed o Ragfyr, tan yr 22ain o Ragfyr.

HWB CYMUNEDOL Y BORTH

161.  Gadawodd y Cynghorwyr Hughes a Dalton y cyfarfod fel y gellid cynnal pleidlais i benderfynu a ddylid cefnogi Hwb Cymunedol y Borth ai peidio. Cynigiodd y Cyng. Jones y dylid anfon llythyr i gefnogi'r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James. Pleidleisiodd pob Aelod o'i blaid.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

162.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 7 Rhagfyr 2020 fydd yr Eisteddfod Genedlaethol, y Maes Chwarae, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar hyd Stryd Fawr y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.                                                              

  • Hits: 1205