• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Mehefin 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, MEHEFIN Y 1AF 2020 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:   Cadeirydd:                    R Dalton
                                                         C Bainbridge                                       
                                                         R Davies
                                                         H Hughes                                                                                                        
                                                         G B Jones
                                                         A J Morris
                                                         D Pryce Jones
                                                         D Tweedy                                                                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:      R P Quant
Clerc:               M Walker            
                                                            3 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
385.  Y Cynghorwyr M Griffiths a J James.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
386.  Dim.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
387. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod.  Datganodd y Cyng. Morris fuddiant ymlaen llaw dan Eitem 9, Prydles y Parc Cychod.
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
388. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 11 Mai 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
389.  Dim.
 
GOHEBIAETH
 
390.  Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth oddi wrth Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. 
 
391. Un Llais Cymru.  Lansio'r cynllun "Llefydd Lleol ar gyfer Natur".
Diwygio dwy reol sefydlog sy'n ymwneud â Draenio Cynaliadwy.
Canslo cyfarfodydd pwyllgorau ardal Un Llais Cymru.
 
392.  Llywodraeth Cymru.  Manylion pob ymgynghoriad a gynhelir ar hyn o bryd.
Adroddiad atodol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar yr egwyddorion sy'n ymwneud ag ad-dalu costau gofal.
 
393.  Prydles y Parc Cychod.  Llythyr sy'n gwrthwynebu'r bwriad i rentu'r parc cychod ar brydles. Cadarnhad hefyd oddi wrth Emma ei bod yn dymuno bwrw 'mlaen. Aethpwyd i'r afael â'r brydles dan Eitem 9 yr Agenda.
 
394.  Tarian Cymru.  Cais am gefnogaeth ariannol tuag at fenter i brynu Cyfarpar Diogelu Personol i'w ddosbarthu lle bo'i angen yng Nghymru. Cytunwyd i beidio â chefnogi'r cais hwn gan nad yw'r sefydliad yn elusen gofrestredig ac am fod digon o Gyfarpar Diogelu Personol yng Nghymru i bara chwe mis arall.
 
CYFRIFON
 
395. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mai 2020
        Nationwide                                                                                                                     30,148.85
        Cyfri Cymunedol                                                                                                            16,757.40
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                                            14,138.07
        Cyfri Adnau                                                                                                                      3,667.12
 
396. Incwm 
        Dim.
                 
397. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:  
        H Hughes - ad-daliad am y tanysgrifiadau blynyddol i Zoom                                          143.88
        Cyfoeth Naturiol Cymru - ardrethi draenio                                                                       290.88
        M Walker - cyflog y Clerc                                                                                                 508.00
        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion misoedd Mawrth a Mai a'r Cynllun Argyfyngau    255.35
 
398.   Datganiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020. 
Dosbarthwyd copïau o'r Datganiad Blynyddol i'r Cynghorwyr dros e-bost oherwydd y sefyllfa bresennol. Rhoddodd y Cyng. Quant adroddiad cynhwysfawr ynghylch y cyfrifon a'r Datganiad Blynyddol. Mae'r Cyngor yn cadarnhau bod y Datganiad Blynyddol wedi'i gyflwyno i'r Cyngor a phenderfynodd gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2019/20. Mae'r Cyngor yn nodi cynnwys Adroddiad yr Archwiliad Mewnol Blynyddol a gynhaliwyd ac a ardystiwyd gan Mrs Hilary Matthews (Archwilydd Mewnol), a phenderfynwyd cymeradwyo Rhannau 1 a 2 o'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Awdurdodwyd y Cadeirydd a'r Clerc i lofnodi'r Datganiad ar ran y Cyngor. Y cynigydd oedd y Cyng. Hughes, yr eilydd oedd y Cyng. Morris ac roedd pob Aelod o blaid y cynnig. Trefnir bod y Cadeirydd yn llofnodi'r Datganiad.
 
Cynhaliodd a llofnododd Mrs Hilary Matthews yr Archwiliad Mewnol ar y 30ain o Ebrill a bydd y cyfrifon ar gael i'w harchwilio rhwng y 1af a'r 28ain o Fedi.
                                                                                                
CYNLLUNIO
 
399.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
Dim.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
400. Mae'r Cyngor wedi penderfynu derbyn a chymeradwyo'r brydles yn amodol ar ddiwygio Cymal 8.1, "Yswiriant". Bydd y gair "Landlord" yn cael ei newid i "Tenant" a bydd yn darllen fel a ganlyn: "Bydd y Tenant hefyd yn sicrhau bod yr Eiddo wedi’i ddiogelu gan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus digonol bob amser." Cynigiwyd y gwelliant gan y Cyng. Hughes ac fe'i heiliwyd gan y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y gwelliant, ac eithrio'r Cyng. Morris a ddatganodd fuddiant yn y mater. Gofynnwyd i'r Clerc gysylltu â'r cyfreithiwr i wneud cais i ddiwygio'r brydles yn unol â'r penderfyniad hwn ac i gwblhau'r gwaith papur.
 
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I'R CYNGHORWYR 
 
401.  Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Panel yn parhau i fandadu taliad o £150 fel cyfraniad tuag at gostau a threuliau aelodau pob cyngor tref a chymuned. Caiff unigolyn wrthod cyfran o'r taliad, neu'r taliad i gyd, os yw'n dymuno. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig ac mae'n fater i'r unigolyn. Rhaid i aelod o gyngor tref neu gymuned sy'n dymuno gwrthod taliadau fynd ati ei hun i ysgrifennu at ei swyddog priodol i wneud hyn. Bydd y Clerc yn anfon e-bost at y Cynghorwyr i ofyn iddynt roi gwybod iddi os ydynt yn dymuno gwrthod y taliad.
                                                           
MATERION Y CADEIRYDD
 
402.  Mae'r Cyng. Dalton yn parhau i bryderu ynglŷn â pha mor uchel y mae'r môr yn cyrraedd y wal gyferbyn â Dovey Belle pan fo gwyntoedd cryfion a phan fo'r llanw'n uchel.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
403.  Mae'r Cyng. Bainbridge yn pryderu am gais cynllunio i godi fferm ieir yn Nhalybont. Mae gorymdaith flynyddol y carnifal wedi'i chanslo eleni. Fodd bynnag, bydd rhai digwyddiadau yn cael eu cynnal. Ail-agorodd Clwb Golff y Borth ac Ynyslas heddiw.
Dywedodd y Cyng. Jones y bu'r traeth yn brysur iawn dros y penwythnos serch y cyfyngiadau symud.
Dywedodd y Cyng. Pryce Jones i berchnogion New Haven deithio bob penwythnos i'r Borth o Landrindod. Ategodd y Cyng. Quant y soniwyd wrth yr heddlu am hyn. Cafwyd cynnydd mewn baw cŵn ar y traeth a phenderfynwyd ailosod y faner "Dim cŵn ar y traeth" ac i roi nodyn atgoffa ar y wefan ac ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Borth.
Soniodd y Cyng. Tweedy iddo sôn wrth yr heddlu am feiciwr modur a oedd yn gyrru ar hyd y llwybr troed ac o gwmpas y gors bob nos am sawl noson. Ni ddaliwyd y beiciwr modur ac nid yw wedi dychwelyd ers hynny.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
404.   Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Quant ynghylch COVID-19. Cofnodwyd 41 o achosion o'r coronafeirws yng Ngheredigion ac nid oedd dim achosion ym Mronglais ar hyn o bryd. Nid oedd dim achosion mewn cartrefi gofal yn yr ardal 'chwaith. Dewiswyd Ceredigion fel sir beilot i dreialu cynllun "profi ac olrhain" y coronafeirws.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
405.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 8.50pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, 6 Gorffennaf 2020 fydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Traethau a Safleoedd Bws. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.
  • Hits: 1295