• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Ionawr 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, IONAWR 6 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:       Cadeirydd:                R Dalton
                                                         C Bainbridge                                       
                                                         R Davies                                              
                                                         H Hughes
                                                         J James            
                                                         G B Jones                                                                      
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:       R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                          3 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
256.  Y Cynghorwyr M Griffiths, D Pryce Jones, A J Morris a D Tweedy.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
257.   Dymunai Mr Graham Taylor ddiolch i bawb am eu consyrn wedi iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
258. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
259. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2019. Y cynigydd oedd y Cyng. Davies a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
260.  Dim.
 
GOHEBIAETH
 
261.  Un Llais Cymru.  Manylion ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ffioedd cynllunio.
Cynhadledd Arfer Arloesol a Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru 2020.
 
262.  Llywodraeth Cymru.  Manylion canllawiau statudol sy'n ymwneud â Rheoliadau Caeau Chwarae 2015.
Bwletin Cyfoeth Naturiol Cymru mis Rhagfyr 2019.
Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
263.  Cyngor Sir Ceredigion.  Ymgynghoriad ar waredu â ffonau talu BT - rhan 3. Cytunwyd i anfon ymateb i'r ymgynghoriad a oedd yn nodi ein bod yn gwrthwynebu gwaredu â'r ffôn talu yn Ynyslas a'r ffôn ar safle hen neuadd y pentref.
 
264.  Ecodyfi.  Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2018 a'r adroddiad ar Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a fforwm Ecodyfi.
 
265.  Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys.  Ymgynghoriad ar Braesept yr Heddlu 2020/21.
 
266.  Ysgol Graig yr Wylfa.  Gweler cofnod 241. Llythyr sy’n manylu ar y cyllid a ddaeth i law drwy wahanol ffynonellau.
 
267.  Rhoddion ariannol.  Cais oddi wrth Fynwent Capel y Garn, Y Tincer a Chlwb Pêl-droed Llanilar am gymorth ariannol.
 
268.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion y ffyrdd sy'n mynd i fod ynghau, gan gynnwys Ffordd Clarach, rhwng y 13 Ionawr a 7 Chwefror.
 
269.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion ymgynghoriad ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Ceredigion - Ceredigion Deg a Chyfartal 2020-24
 
270.  Heather Strange.  Copi o ymateb oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ynghylch y materion a godwyd yn ddiweddar.
 
271.  Cwyn.  E-bost er sylw'r Clerc a oedd yn herio cynnwys gohebiaeth flaenorol ynghylch amserau cynnau/diffodd y goleuadau stryd.
 
272.  Clerks & Councils Direct.  Cylchlythyr misol.
 
CYFRIFON
 
273. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Rhagfyr 2019
        Nationwide                                                    29879.20
        Cyfri Cymunedol                                              12970.99
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                             14131.02
        Cyfri Adnau                                                        3585.33
 
274. Incwm 
        Cyfri cymunedol - Rhent Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol
                                       y Badau Achub (yr RNLI)                                                       500.00
        Cyfri Adnau - llog gros hyd 5/12/19                                                                          1.79
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd 5/12/19                                                   7.04                 
          
275. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Rhagfyr                                                   59.00
        M Walker - cyflog 508, costau swyddfa 8.99                                                         516.99
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill                                     381.00
 
CYNLLUNIO
 
276.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim.
 
CYLLIDEB A PHRAESEPT
 
277.  Dosbarthodd y Clerc y ffigurau gwariant a'r balans diweddaraf hyd at 31 Rhagfyr 2019, ynghyd â'r cynllun ariannol ar gyfer 2020/21 a gyflwynodd y Cyng. Quant mewn manylder. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ganlynol ar gyfer 2020/21:
 
Cyflog y Clerc                                      7770.00
Costau Swyddfa                                      200.00
Cronfa Arian Rhodd y Clerc                      80.00
Yswiriant                                             1750.00
Lwfans y Cadeirydd                                200.00
Cynnal a Chadw                                    3600.00
Cynnal a Chadw dros y Gaeaf                  400.00
Amwynderau – Refeniw’r Neuadd         8000.00
Cyfleusterau Cymunedol
a Chelfyddydol                                     2400.00
Rhoddion                                             2500.00
Amrywiol                                               500.00
Arian wrth gefn                                    1000.00
Ffi Archwilio                                          350.00
Cyfieithu                                              1200.00
Cadw'r toiledau wrth ymyl yr RNLI
yn agored dros y gaeaf                           4500.00
Ysgol Craig yr Wylfa                            2000.00
 
Cyfanswm: £36450.00 
 
278.  Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ac i osod y braesept ar 60%, sy'n gyfystyr â £21870.00. Y cynigydd oedd y Cyng. Bryn Jones a'r eilydd oedd y Cyng. John James. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y cynnig.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
279.  Anfonwyd copi o e-bost oddi wrth Emma a ddaeth i law yn sgil y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf at y Cynghorwyr cyn y cyfarfod. Mae Emma wedi cytuno i dderbyn y brydles a bydd yn gyfrifol am ganfod pwy sy'n berchen ar y cychod/trelars ac ati. Cytunodd Cyngor Cymuned y Borth y dylai unrhyw daliadau sy'n gysylltiedig â "gwaredu â chychod/trelars a chyfarpar nad ydynt wedi'u hawlio gael eu cydnabod yn y brydles fel cost un-tro y sy'n daladwy gan y Cyngor yn lle clirio'r safle cyn i'r brydles gael ei throsglwyddo." Soniodd y Cyng. Bainbridge am y diwrnod y cyfarfu ag Emma i dynnu ffotograffau o'r holl gychod ac ati. Penderfynodd yr Aelodau dderbyn yr amodau a gynigiodd Emma. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. James. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig. Gwyntyllwyd a chymeradwywyd hawliau diamwys, Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a'r cymal Dirwyn Busnes i Ben dan gofnod 247/19. Gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at Gwmni Cyfreithwyr Huw Bates i ddiwygio'r Brydles Ddrafft i'w hystyried yng nghyfarfod mis Chwefror.
 
LLWYBRAU TROED
 
280.  Mae'r mater yn parhau.
 
CYNLLUN ARGYFYNGAU
 
281.  Mae'r mater yn parhau.
 
LOGO CYNGOR CYMUNED Y BORTH
 
282.  Cynigiodd y Cyng. Davies y dylai logo Cyngor Cymuned y Borth fod yr un fath â'r cynllun presennol ar gadwyn y Maer. Eiliwyd hynny gan y Cyng. Jones. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n cysylltu ag Adran Reprograffeg Cyngor Sir Ceredigion i drafod hyn.
 
CINIO BLYNYDDOL Y CYNGOR
 
283.  Yn dilyn trafodaeth fer, cytunwyd i gynnal y cinio blynyddol yn y Railway Hotel nos Iau, 13 Chwefror.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
284.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Dalton ynglŷn â'r cyfarfod PACT diweddar. Y prif fater dan sylw oedd goryrru yng Nglanwern.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
285.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn ag ymweliad Siôn Corn â'r pentref a fu'n llwyddiant ysgubol. Mae hefyd ar hyn o bryd yn holi am ddyfynbrisiau er mwyn cael cyfarpar newydd ar gyfer y maes chwarae yn rhan o grant y loteri. Soniodd y Cyng. Bainbridge hefyd fod angen golchi safle bws Ynyslas unwaith eto. Roedd llai o fysus yn gwasanaethau'r ardal dros y Nadolig a chrybwyllodd y byddai bellach yn mynychu cyfarfodydd Gorwelion fel aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned.
Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Davies ynghylch arwyddion ffyrdd yng Nglanwern.
Soniodd y Cyng. James am broblemau â'r casgliadau sbwriel dros gyfnod y gwyliau. Mae'r sietyn sy'n tyfu dros y llwybr troed i fyny Rhiw Clarach wedi'i thorri. Fodd bynnag, rhaid gwaredu â'r gwaddod gwyrdd llithrig ar y palmant.
Mae'r Cyng. Hughes yn bwriadu holi unwaith eto ynglŷn â'r hyfforddiant y mae Calonnau Cymru yn ei gynnal ar ddefnyddio diffibrilwyr.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
286.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r neuadd gymunedol. Rhaid cael drws blaen newydd ac mae nam ar y lifft risiau.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
287.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun 3 Chwefror 2020 fydd cyflwyniad gan O'r Mynydd i'r Môr, Prydles y Parc Cychod, Llwybrau Troed, y Cynllun Argyfyngau, Logo Cyngor Cymuned y Borth, Lle Gwag ar y Cyngor a Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda.                               
  • Hits: 1544