• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Rhagfyr 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, RHAGFYR YR 2IL, 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                       R Dalton                                             
                                                         R Davies                                                                      
                                                         J James                                    
                                                         D Pryce Jones                                                                                                  
                                                         A J Morris
                                                         D Tweedy                                                                                                                    
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:          R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                            5 aelod o'r cyhoedd. 
 
YMDDIHEURIADAU
 
227.  Y Cynghorwyr C Bainbridge, M Griffiths, H Hughes a G B Jones.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
228.   Hysbysodd Mr Chris Denny yr Aelodau nad oedd y banc cerrig mân gyferbyn â'i dŷ mor serth ag y buodd o ganlyniad i'r llanw uchel diweddar.
 
Awgrymodd Mr Graham Taylor y dylid creu logo ar gyfer Cyngor Cymuned y Borth. Cytunwyd i drafod y mater hwn yng nghyfarfod mis Ionawr.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
229. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
230. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar y 4ydd o Hydref 2019 ar yr amod bod y frawddeg "am nad oedd ganddynt drwydded llygod y dŵr" yng nghofnod 204 yn cael ei dileu. Y cynigydd oedd y Cyng. Davies a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
 
MATERION YN CODI
 
231.  Rhoddodd y Cyng. Dalton ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod diweddar â Rhodri Llwyd o Gyngor Sir Ceredigion. Yn ystod y cyfarfod, cerddodd sawl aelod o'r Cyngor, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd, ar hyd y traeth i godi ymwybyddiaeth ynghylch proffil y traeth a'r ffaith ei bod yn anodd mynd ato mewn sawl man am fod y twmpathau cerrig mân mor serth.  Mae'r ffaith nad oes amddiffynfa rhag y môr gyferbyn â siop Premier hefyd yn achosi pryder.
 
GOHEBIAETH
 
232.  Un Llais Cymru.  Cylchlythyr Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Adrodd ynghylch Adran 6 - Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau.
Y rhaglen diweddaru pasiau bws.
Manylion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â "Chymru Fwy Cyfartal".
Y bwletin newyddion diweddaraf.
Manylion "Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019".
 
233.  Llywodraeth Cymru.  Bwletin mis Tachwedd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.
Datganiad ysgrifenedig sydd i'w weld ar-lein ynghylch Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yr uchafswm y gellir ei wario at ddibenion elusennol ac at ddibenion eraill dan Adran 137 ym mlwyddyn ariannol 2020/21 yw £8.32 fesul etholwr.
 
234.  Cyngor Sir Ceredigion.  Y diweddaraf am y gwasanaeth casglu gwastraff.
 
235.  Materion Lleol.   Llythyr oddi wrth breswylydd sy'n codi tri mater sy'n achosi pryder iddo, sef arwyddion ffyrdd coll, safle'r banc poteli presennol a'r dŵr sy'n ymgronni wrth y Cwrs Golff. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn mynd i'r afael â'r materion hyn ar hyn o bryd.
 
236.  Elliott Ryder Conservation.  Llythyr sy'n sôn am y gwaith y maent yn ei wneud ar gerfluniau, cofebion mewn eglwysi, gweithiau celf pensaernïol, gan gynnwys cofebion rhyfel a mosaigau.
 
237.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion cau ffordd y B4353 dros dro.
 
238.  Clerks & Councils Direct.  Rhifyn mis Tachwedd o'r cylchgrawn.
 
239.  Meddygfa'r Borth.  Cais i newid y ffin.
 
240.  Gohebiaeth Arall.  Llyfryn Glasdon.
 
241.  Ysgol Graig yr Wylfa.  Cais am gymorth ariannol er mwyn cyllido clwb brecwast yr ysgol ac er mwyn cynnal lefel staffio sy'n gynaliadwy. Gofynnodd yr Aelodau i'r Clerc ysgrifennu at y Pennaeth i ofyn am ragor o fanylion.
 
242.  Cofeb y Borth.  Ar ôl profi'r rhoden fellt yn ddiweddar, penderfynwyd bod angen gwneud peth gwaith atgyweirio arni fel y gall wneud ei gwaith yn iawn. Fodd bynnag, bydd angen rhagor o waith arni er mwyn i'r system gydymffurfio â Safonau Prydeinig. Bydd y Cyng. Quant yn ymchwilio i hyn.
 
CYFRIFON
 
243. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Tachwedd 2019
        Nationwide                                                                               29,879.20
        Cyfri Cymunedol                                                                      12,805.64
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                       14,123.98
        Cyfri Adnau                                                                               3,583.54
 
244. Incwm 
        Cyngor Sir Ceredigion – trydydd taliad y praesept                        6,590.00           
          
245. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        TME Electrical - profi'r system diogelu rhag mellt ar y gofeb           210.00
        M Walker - cyflog 508.00, costau swyddfa 7.99                              515.99
        Y Lleng Frenhinol Brydeinig - Torch Sul y Cofio                              54.00
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Tachwedd                          70.65           
 
CYNLLUNIO
 
246.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
Dim.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
247.  Anfonwyd copi o e-bost oddi wrth Emma at yr Aelodau cyn y cyfarfod i'w ystyried. Datganodd y Cyng. Morris fuddiant ond arhosodd yn yr ystafell. Ni fwriodd bleidlais. Dim ond 5 cais i gofrestru cychod sydd wedi dod i law'r Cyngor ac, oherwydd y diffyg ymateb gan berchnogion y cychod, cytunwyd i anfon llythyr at Emma i ofyn a fyddai'n fodlon cymryd y parc cychod ar brydles fel y mae ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros berchnogaeth y cychod. Bydd y Cyngor hefyd yn anfon cadarnhad ysgrifenedig at Emma nad oes ganddo gytundeb cyfreithiol ag un o'r perchnogion cychod ac nad oes neb erioed wedi talu am gadw cwch yno. Cytunodd yr Aelodau hefyd â thelerau'r yswiriant ynghyd â'r cymal Dirwyn Busnes i Ben. Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.
 
LLWYBRAU TROED
 
248.  Mae'r Cyng. Hughes wedi cwrdd â Rob Davies i drafod y posibiliadau ar gyfer rhan o'r llwybr troed gyferbyn â'r arcêd. 
 
GORYRRU
 
249.  Cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar ddydd Iau, y 5ed o Ragfyr. Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau y byddai wyneb newydd yn cael ei gosod ar y ffordd yng Nglanwern ar yr 11eg o Ragfyr. Ei obaith oedd y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn gosod marciau ffordd coch pan fydd yn gwneud y gwaith hwn.
 
Tir Comin
 
250.  Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnal astudiaeth o'r ddyfrffos yng Nglanwern. Nid oes diweddariad arall wedi dod i law oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru.
 
CYNLLUN ARGYFYNGAU
 
251.  Dosbarthwyd fersiwn fyrrach o'r cynllun argyfyngau a baratôdd Jill Hulse i'r Aelodau. 
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
252.  Nid oes ymateb wedi dod i law i'r llythyr a anfonwyd at Gyngor Sir Ceredigion ynghylch y llifogydd ger y Cwrs Golff. 
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
253.  Soniodd y Cyng. James wrth yr Aelodau am ddamwain arall ar Ffordd Clarach, lle gadawyd y car yn y fan a'r lle. Nid yw'r gwaith i lenwi'r tyllau yn y ffordd yn dal wedi'i wneud, er y gofynnwyd sawl gwaith i hyn gael ei wneud.
Rhoddodd y Cyng. Morris ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod y bu'n bresennol ynddo'n ddiweddar i drafod bioamrywiaeth.
Rhoddodd y Cyng. Pryce Jones ddiweddariad ynghylch y gwaith codi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
254.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Quant ynghylch y cyfarfod a gynhaliwyd ar y traeth lle bu Aelodau'r Cyngor a Rhodri Llwyd yn bresennol. Cadarnhaodd hefyd y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn glanhau'r draeniau ar ran o'r Stryd Fawr.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
255.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 8.58pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 6ed o Ionawr 2020 fydd y Gyllideb a'r Praesept, Prydles y Parc Cychod, Llwybrau Troed, y Cynllun Argyfyngau, logo Cyngor Cymuned y Borth a Chinio'r Cyngor. Dylid hysbysu'r Clerc ynglŷn ag eitemau eraill.
  • Hits: 1795