• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Chwefror 2019

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNED
NOS LUN, CHWEFROR 4 2019 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:          C Bainbridge
                                            G Ashley
                                            R Dalton
                                            M Griffiths                                                                                          
                                            H Hughes
                                            J James                                                           
                                            A J Morris
                                            M J Willcox    
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
                                    Clerc: M Walker            
                                        3 aelod o'r cyhoedd.
 
 
YMDDIHEURIADAU
 
342.  Y Cynghorwyr G B Jones a D Tweedy.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
343.  Cododd Mrs Andrea Hughes gwestiynau ynghylch yr Ysgol Hwylio arfaethedig. A oes gwaith papur wedi'i anfon at y Cyngor i gefnogi'r hyn y mae Emma wedi'i gynnig a sut y bydd y Cyngor yn dod i benderfyniad ynghylch dilysrwydd yr achos busnes? Atebodd y Cadeirydd drwy ddweud bod Emma wedi rhoi dau gyflwyniad gerbron y Cyngor a'i bod hefyd wedi cyflwyno cynnig manwl a chrynodeb gweithredol. Fodd bynnag, nid oes gan y Cyngor feini prawf penodol wrth ddod i benderfyniad ynghylch achos busnes. 
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
344. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
345.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2019. Penderfynwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr yn gywir ar yr amod y caiff Cofnod 296 ei ddiwygio ar gais y Cyng. Hughes. Ar ôl cael eglurhad oddi wrth Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion, ni fydd Cofnod 296 yn newid ac eithrio'r gair "honni" yn y frawddeg olaf. Mae'r gair hwnnw bellach wedi'i newid i "dweud". Penderfynodd yr Aelodau dderbyn y cywiriad.
 
MATERION YN CODI
 
346.  Maes Chwarae i Blant.  Cofnod 309.  Mae'r mater yn parhau.        
 
347.  Tir Comin.  Cofnod 310.  Mae'r mater yn parhau.
 
348.  Maes Parcio ar Dir yr Hen Neuadd.  Cofnod 311.  Mae'r mater yn parhau.
 
GOHEBIAETH
 
349.  Un Llais Cymru.  Manylion cyfarfod Pwyllgor Ardal Ceredigion a'r dyddiadau hyfforddi.
 
350.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth.  Cais am y £2000 sy'n weddill o gyllid refeniw'r flwyddyn gyfredol.
 
351.  Un Llais Cymru.  Nodyn i atgoffa'r Cadeirydd presennol o'r gwahoddiad i Arddwest Palas Buckingham.
 
352.  Un Llais Cymru.  Dolen i gylchlythyr y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
 
353.  Ecodyfi.  Y digwyddiadau a gynhelir yn fuan.
 
354.  Un Llais Cymru.  Manylion Cynhadledd Cymdeithas Alzheimer Cymru 2019.
 
355.  Un Llais Cymru.  Manylion gweithdy "Living Memory" sydd i'w gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol.
 
356.  Llywodraeth Cymru.  Yr ymgynghoriadau diweddaraf.
 
357.  Rhoddion ariannol.  Ceisiadau oddi wrth Marie Curie, CFfi Ceredigion, Tenovus, Mynwent y Garn a Threialon Cŵn Defaid Rhyngwladol Ceredigion 2020. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth.
 
358.  Mini Meadow Makers.  E-bost oddi wrth Kate Doubleday, garddwr bywyd gwyllt a chymunedol, sy'n awyddus iawn i ddechrau prosiect yn y Borth i wella bioamrywiaeth yn lleol drwy greu neu adfer dolydd blodau gwylltion. Mae hefyd yn hynod awyddus i gael sgwrs â'r Cyngor Cymuned. Cytunwyd i estyn gwahoddiad i Kate i gyfarfod mis Mawrth.
 
359.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
 
360.  Un Llais Cymru.  Manylion cynllun ffioedd Swyddfa Archwilio Cymru 2019-20, sy'n esbonio sut y maent yn pennu eu ffioedd.
 
361.  Swyddfa Archwilio Cymru.  Manylion dau adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru sy'n crynhoi'r materion a nodwyd gan yr Archwilwyr Allanol yn ystod eu harchwiliad statudol o Gynghorau Lleol.
 
362.  Emma Heathcote.  Ateb i'r llythyr a gyhoeddwyd yn y Cambrian News ynghylch y bwriad i sefydlu Ysgolion Hwylio'r Borth.
 
363.  Un Llais Cymru.  Bwletin mis Chwefror 2019.
 
364.  Cymorth Cynllunio Cymru  Manylion sesiwn hyfforddi.
 
364.  Gohebiaeth Arall  Catalog The Sign a llyfryn Glasdon.
 
365.  Phil Turner-Wright.  E-bost a anfonwyd at y Clerc i gadarnhau ei fod wedi galw etholiad i lenwi'r lle gwag olaf ar y Cyngor ac i ddweud y byddai'n sefyll fel ymgeisydd.
 
CYFRIFON
 
366. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Ionawr 2019
        Nationwide                                                                                         29,637.15
        Cyfri Cymunedol                                                                                     500.30
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                 22,478.46
        Cyfri Adnau                                                                                         3,478.23
 
367. Incwm   
        Rhent ar dir ger Gerydon                                                                         100.00
      
368. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Huws Gray – gwaith ar yr ardal cerdded cŵn                                             341.50
        Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth – cyllid refeniw           2,000.00
        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Ionawr                                           58.30
        M Walker  - Cyflog y Clerc 485.76, costau swyddfa 10.99                           496.75       
        Mike Willcox – TAW ar yr anfoneb oddi wrth Huws Gray                             68.30
        M Willcox – bolltiau ar gyfer amddiffynfeydd y môr                                       7.74
        R N Davies – llafur a deunyddiau ar gyfer yr ardal cerdded cŵn                   872.50
       
CYNLLUNIO
 
369.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn
A190025.  Newidiadau arfaethedig i annedd bresennol.  Sydney, Stryd Fawrth, y Borth. Dim gwrthwynebiad.
 
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
 
370.  Cynhelir cyfarfod ar nos Fawrth, y 5ed o Chwefror am 7.30pm.
 
PRYDLES Y PARC CYCHOD
 
371.  Paratôdd y Cyng. Quant brydles ddrafft i'w hystyried. Mynegodd y Cyng. Hughes a'r Cyng. Willcox bryder ynghylch hyn ac roedd yr Aelodau yn awyddus i wybod a oedd Emma wedi siarad ag Aber Adventurers a chyda Clwb Rhwyfo'r Borth. Penderfynodd yr Aelodau fynd ati i gynnig prydles ar gyfer y parc cychod, yn amodol ar welliannau i'r ddogfen ddrafft neu ychwanegiadau ati. Pleidleisiodd 7 o blaid hyn ac ymatalodd 1.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
372.   Hysbysodd y Cyng. Bainbridge yr Aelodau ei bod wedi anfon Llyfryn y Rhyfel Mawr at Un Llais Cymru fel y gellir ei ystyried ar gyfer gwobr.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor Iechyd Cymuned ar y 7fed o Chwefror.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
373.  Rhoddodd y Cyng. Ashley ddiweddariad ynglŷn â’r gwaith gwylio cyflymder. Bydd y Cyng. Hughes yn cysylltu â'r Cyng. Ashley i drafod cael rhagor o arwyddion cŵn.
Mae'r Cyng. Morris wedi ysgrifennu at Ben Lake AS i sôn wrtho bod rhannau o'r Borth wedi bod yn colli signal teledu.
Dywedodd y Cyng. James fod dŵr sy'n rhedeg i lawr o'r fynedfa i Wallog yn cronni ynghanol y ffordd.
Y Cyng. Dalton - PACT - Cynhelir cyfarfod ar y 7fed o Chwefror. Mae'r problemau â'r banc poteli a thipio anghyfreithlon o'i amgylch yn parhau ac er bod y Cyng. Dalton a'i gŵr yn rhoi'r sbwriel mewn bagiau, nid yw'r casglwyr sbwriel yn codi'r bagiau. Bydd y Cyng. Quant yn ymchwilio i hyn.
Bu'r Cyng. Hughes yn bresennol mewn cyfarfod i drafod y "Goeden".
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
374.  Mae'r Cyng. Quant wedi cwrdd â Street Scene i drafod tipio anghyfreithlon yn y Borth. Dylai gwasanaeth casglu gwydr fod yn cychwyn tua diwedd y flwyddyn. Bydd y sgipiau yn aros ar y safle am 3 mis ar ôl i'r gwasanaeth ddechrau. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn fodlon gadael 2 fin sbwriel ar safle'r maes parcio. Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad byr am Gam 3 Cynllun Amddiffyn yr Arfordir. Gallai Treth y Cyngor yn 2019/20 godi 7%.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
375.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 8.50pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, y 4ydd o Fawrth 2019 fydd ymweliad gan Ben Lake, Kate Coubleday, Lle Gwag ar y Cyngor a Rhoddion Ariannol. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                       
  • Hits: 2112