• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Ionawr 2019

COFNODION CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYFARFU YN Y NEUADD GYMUNED,
NOS LUN, IONAWR 7 2019 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:   Cadeirydd:               C Bainbridge
                                                    Hughes
                                                    J James
                                                    G B Jones
                                                    A J Morris
                                                    D Tweedy (cyfetholwyd)
                                                    M J Willcox    
Yn bresennol: Cynghorydd Sir: R P Quant
           Clerc:                   M Walker            
                                                   5 aelod o'r cyhoedd. 

YMDDIHEURIADAU

304.  Y Cynghorwyr G Ashley, R Dalton a'r Cyng. M Griffiths. Cyflwynodd y Cyng. Phil Turner-Wright lythyr ymddiswyddo.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

305.  Dim.

CYFETHOL AELOD NEWYDD I'R CYNGOR

306.  Estynnodd y Cyng. Bainbridge wahoddiad i Mr Dean Tweedy ymuno â'r Cyngor. Tyngodd lw'r Datganiad Derbyn Swydd ac fe'i croesawyd yn aelod o Gyngor Cymuned y Borth. Rhoddwyd copi o God Ymddygiad y Cyngor i Mr Tweedy.  Bydd copi o'r Rheolau Sefydlog newydd ar gael yn electronig.

DATGAN BUDDIANNAU

307. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

308.  Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2018 yn gywir, ar yr amod y caiff cofnod 296 ei ddiwygio ar gais y Cyng. Hughes. Bydd cofnod 296/2018 yn cael ei gadarnhau pan fydd y Cyngor yn cwrdd ym mis Chwefror.

MATERION YN CODI

309.  Maes Chwarae i Blant.  Cofnod 271.  Cafwyd adroddiad dan Faterion y Cadeirydd.

310.  Tir Comin.  Cofnod 296. Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Sir, y Cyng. Quant, a dywedodd y bydd yn gofyn am gyngor cyfreithiol priodol.

311.  Maes Parcio ar dir yr Hen Neuadd  Cofnod 297.  Dangosodd y Clerc ddau fap ynghyd ag adroddiad a baratôdd y Cyng. Quant ynglŷn â'r maes parcio.

GOHEBIAETH

312.  Llywodraeth Cymru.  Diweddariad mis Rhagfyr 2018 i Gynghorau Tref a Chymuned.

313.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Rhagfyr 2018.

314.  Un Llais Cymru.  Manylion pecyn cymorth a ddatblygwyd gan Grŵp Llywio Gwerth Cymdeithasol Caerdydd a'r Fro i gynorthwyo unrhyw unigolyn neu dîm sy'n ymwneud â chomisiynu, caffael neu ddarparu gwasanaethau sy'n creu gwerth cymdeithasol.

315.  Llywodraeth Cymru.  Rhifyn mis Rhagfyr 2018 o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.

316.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth.  Llythyr i ddiolch am y grant diweddar o £6000.

317.  Llywodraeth Cymru.  Manylion yr ymgynghoriadau diweddaraf sydd ar gael i'w gweld ar-lein, gan gynnwys briff ynghylch trafnidiaeth a'r economi.

318.  Un Llais Cymru.  Cylchlythyr mis Tachwedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu

319.  Un Llais Cymru.  Manylion y modd y gall Llywodraeth Leol wneud rhagor i ddatblygu diwylliant cryf o ran data.

320.  Cyngor Sir Ceredigion. Manylion ymgynghoriad ynghylch y ddarpariaeth cyfleusterau cyhoeddus bresennol yng Ngheredigion.

321.  HCC Solicitors.  Cais am fanylion yswiriant y Cyngor parthed hawliad anaf personol.  Gofynnwyd i'r Clerc anfon yr ohebiaeth at gwmni yswiriant y Cyngor.

322.  Un Llais Cymru.  Cais i gwblhau arolwg ynghylch defnyddio'r Gymraeg.

323.  Un Llais Cymru.  Cylchgrawn Clerk and Councils Direct.

324.  Swyddog Monitro  Gwahoddiad i glercod pob Cyngor Tref a Chymuned gwrdd â'r Swyddog Monitro i drafod materion cyffredinol ac unrhyw faterion o bwys.

325.  Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.  Llythyr yn gofyn i Gynghorau gefnogi'r Eisteddfod drwy gyfrannu i'w choffrau.

326.  Cais am Rodd Ariannol  Y Tincer. Bydd hwn yn cael sylw yng nghyfarfod mis Mawrth ynghyd â phob cais arall.

327.  Llywodraeth Cymru.  Dolen i'r ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd.

328.  Un Llais Cymru.  Gwybodaeth am y gofynion newydd sy’n ymwneud â phob datblygiad newydd.

329.  Un Llais Cymru.  Bwletin newyddion Blwyddyn Newydd 2019 a dyddiadau digwyddiadau hyfforddi yn Aberystwyth.

CYFRIFON

330. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Rhagfyr 2018
        Nationwide                                                                               29,637.15
        Cyfri Cymunedol                                                                          500.75
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                     23,577.46
        Cyfri Adnau                                                                               3,478.23
 
331. Incwm   
        Cyfri cymunedol - rhent Sefydliad Cenedlaethol
Brenhinol y Badau Achub (yr RNLI)                                      500.00
        Cyfri Adnau - llog gros hyd 6 Rhagfyr 2018                                  1.73
        Cyfri Busnes Dim Rhybudd - llog gros hyd
6 Rhagfyr 2018                                                  13.72
       
332. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - cynllun Talu Wrth Ennill          364.20
        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Rhagfyr                        81.65
        M Walker  - Cyflog y Clerc 485.76, costau swyddfa 7.99           493.75
 
CYNLLUNIO

333.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn

         Dim

CYLLIDEB A PHRAESEPT 2019/20

334.  Dosbarthodd y Clerc y ffigurau gwariant a'r balans diweddaraf hyd at y 31ain o Ragfyr 2018, ynghyd â chynllun ariannol 2019/20 a gyflwynwyd mewn manylder gan y Cyng. Quant. Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb ganlynol ar gyfer 2019/20:

 

Cyflog y Clerc                                                           7,620.00
Costau swyddfa                                                           200.00
Cronfa Arian Rhodd y Clerc                                         80.00
Yswiriant                                                                  1,750.00
Lwfans y Cadeirydd                                                    200.00
Cynnal a Chadw                                                       3,600.00
Gwaith Cynnal a Chadw'r Gaeaf                                 400.00
Amwynderau - Refeniw'r Neuadd                           8,000.00
Cyfleusterau Cymunedol a'r Celfyddydau               2,400.00
Rhoddion ariannol                                                   1,000.00
Cymysg                                                                      500.00
Arian wrth gefn                                                       1,000.00
Ffi archwilio                                                               350.00
Cyfieithu                                                                 1,200.00
Cydnabyddiaeth ariannol i'r Cynghorwyr                 150.00
Cadw'r toiledau wrth ymyl yr RNLI yn agored
dros y gaeaf                                                            4,500.00

Cyfanswm:                                                        £32,950.00 

335.  Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb a chytunwyd ar braesept o 60%, sy'n gyfystyr â £19,770.00. Cynigiwyd hyn gan y Cyng. Bryn Jones ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Hugh Hughes. Pleidleisiodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol o blaid y penderfyniad.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

336.  Cynhelir cyfarfod i drafod hyn ar ddydd Mercher, Ionawr y 9fed yn y Neuadd Gymuned

PRYDLES Y PARC CYCHOD

337.  Mae'r mater yn parhau.

MATERION Y CADEIRYDD

338.  Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad byr ynghylch ei chais llwyddiannus am gyllid ar gyfer y maes chwarae. Awgrymodd y Cyng. Willcox y dylid ymchwilio i'r broblem â'r draeniau yn yr ardal honno. Bu'r Cyng. Bainbridge yn bresennol mewn cyfarfod i drafod y llifogydd ar y Cwrs Golff. Roedd Ben Lake AS hefyd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.  Codwyd £686.90 hyd yma drwy werthu llyfrynnau'r Rhyfel Mawr a fydd yn cael eu cynnwys yng Ngwobr Arfer Arloesol Un Llais Cymru. 

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

339.  Yn ei habsenoldeb, hysbysodd y Cyng. Dalton y Clerc y cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar yr 17eg o Ionawr.

Nododd y Cyng. Willcox y bydd Rob Davies yn dechrau gweithio ar yr ardal cerdded cŵn yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar y 14eg o Ionawr.

Soniodd y Cyng. Morris fod rhai cartrefi wedi bod heb ddarllediad teledu. Bydd Cyngor Cymuned y Borth yn ysgrifennu i fynegi pryder ynghylch hyn.

Mae'r Cyng. James wedi cael anawsterau â'r casgliadau biniau dros gyfnod y Nadolig. Damwain arall ger Brynbala.

Bu'r Cyng. Hughes mewn cyfarfod yn ddiweddar i drafod y "Goeden". Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi cael gwybod am y tipio anghyfreithlon sy'n digwydd ar safle'r banciau poteli. Dywedodd y Cyng. Hughes bod angen rhagor o arwyddion cŵn ar y polion lampau. Bydd yn cysylltu â'r Cynghorwyr Ashley a Dalton ynghylch hyn.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

340.   Mae'r Cyng. Quant wedi cytuno i gael cyngor cyfreithiol priodol ynghylch y darn o dir comin ger y sŵ.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

341.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9.05pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, y 4ydd o Chwefror 2019 fydd ymweliad gan Ben Lake AS a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                            

  • Hits: 2371