• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion Mis Medi 2018

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL AR NOS LUN, MEDI 3 2018 AM 19.00 O’R GLOCH

 

Presennol:        Cadeirydd:                                C Bainbridge

                                                                           G Ashley

                                                                            R Dalton 

                                                                            M Griffiths

                                                                             J James

                                                                            G B Jones

                                                                           M J Willcox    

Hefyd yn bresennol:  Cynghorydd Sir:               R P Quant

           Clerc:                                M Walker                      

                                                                           4 aelod o’r cyhoedd

 

YMDDIHEURIADAU

136. Dim.

CYFLWYNIAD GAN EMMA HEATHCOTE – YSGOL HWYLIO’R BORTH

137.  Diolchodd Emma i’r Aelodau am y gwahoddiad i annerch y Cyngor. Amlinellodd brif bwyntiau’r cynnig a rhoddodd ddiweddariad byr ynglŷn â’r cyfarfod safle â Chyngor Sir Ceredigion. Soniodd hefyd am sylwadau’r Cyngor Sir. Bydd yn rhaid i Emma fod wedi sicrhau safle ar gyfer yr ysgol hwylio yn ogystal â chaniatâd cynllunio cyn y gellir cyflwyno cais am grant. Mae Aelodau’r Cyngor yn cefnogi’r cynllun yn llawn.  

DATGAN BUDDIANT

138. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw fater perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

139.  Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2018 yn gywir ar yr amod yr ychwanegir y pwyntiau canlynol: Penderfynodd yr Aelodau anfon llythyron at yr Arolygiaeth Gynllunio, at Ben Lake AS, at Elin Jones AC, at Ellen ap Gwyn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion (CSC) ac at eraill yn mynegi pryderon (gweler cofnod 89 “Coeden”) yn sgil llwyddiant yr apêl yn erbyn penderfyniad CSC i beidio â rhoi caniatâd cynllunio.

MATERION YN CODI

140.  Taliadau Cydnabyddiaeth i Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.  Cofnod 87.  Mae’r holl Aelodau presennol wedi datgan nad ydynt am fod yn rhan o’r cynllun.

141.  Clymog Japan.  Cofnod 129. Mae’r mater hwn yn parhau.

142.  Cynnal a Chadw’r Caeau Chwarae.  Cofnod 130.  Trafodwyd y mater hwn tan eitem 8 yr Agenda.

GOHEBIAETH

143.  Coeden.  Daeth gohebiaeth i law oddi wrth Mark Williams, Jill Bullen, Sharon Newman, Sarah Reynolds, Dave Reynolds, Amanda Trubshaw, Jill Bullen, Peter Jones, Helen Kennedy, Eve Smith a Kim Williams yn mynegi pryder ynghylch yr apêl llwyddiannus. Gofynasant i’r drwydded yr oedd ei hangen i godi’r goeden fetel gael ei gwrthod. Gofynnwyd i’r Clerc anfon copïau o’r llythyron oddi wrth Mark Williams a Jill Bullen ymlaen at Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghyngor Sir Ceredigion er mwyn cael eglurder ynghylch rhai pwyntiau a godwyd. Yn ogystal â hynny, gofynnwyd i’r Clerc ail-anfon y llythyr a anfonwyd ar y 13eg o Orffennaf (gweler cofnod 89 a 139) am nad yw’r Cyngor wedi derbyn yr un gydnabyddiaeth nac ymateb hyd yma.

144.  Un Llais Cymru.  Ymgynghoriad ynghylch Mesur Awtistiaeth (Cymru).

145.  Un Llais Cymru.  Manylion ymgynghoriad ynghylch gwahardd defnyddio deunyddiau llosgadwy ar furiau allanol adeiladau preswyl uchel.

146.  Un Llais Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ‘Galwad am Dystiolaeth’ er mwyn ymchwilio i ffyrdd y gall y system gynllunio gynorthwyo i godi cartrefi newydd mewn lleoliadau cynaliadwy, a hynny’n unol â’r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol. Mae dogfen ymgynghori bellach ar gael i’w chwblhau ar-lein.

147.  Llywodraeth Cymru.  Manylion digwyddiad i rannu canfyddiadau adolygiadau a gynhaliwyd ynghylch dyfodol y sector Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.

148.  CSC.  Cynnal a Chadw’r Priffyrdd - Rhaglen Dros Dro Gosod Wyneb Newydd ar Ffordd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

149.  Susan Farrell.  Ymholiad ynghylch y posibilrwydd o gael mainc neu blac ar fainc er coffadwriaeth am ei merch a fu farw y llynedd. Roedd wrth ei bodd yn eistedd ar y fainc yn North Sea gyferbyn â York House a Pebbles a chan ei bod yn anabl, hwn oedd un o’i hoff bethau tra roedd ar wyliau yn y Borth. Gofynnwyd i’r Clerc gynnig mainc i Mrs Farrell (ar yr amod y bydd CSC yn ei chymeradwyo) a’r gost fydd £1,000 am gynllun cynnal a chadw 20 mlynedd.

150.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Cyfoeth Naturiol Cymru Gorffennaf 2018.

151.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion ymgynghoriad ynghylch “Strategaeth Iaith Ceredigion”.

152.  Cyngor Sir Ceredigion.  Mae’r dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau i fod yn rhan o’r Fforwm Mynediad Lleol wedi ei ymestyn i’r 6ed o Awst.

153.  Un Llais Cymru.  Adolygiad o effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

154.  Pobl Hŷn Cymru.  Dolen i Gylchlythyr Haf 2018.

155.  Un Llais Cymru.  Cyhoeddi Cylchlythyr 008/2018 – Gofyniad cynllunio parthed defnyddio carthffos breifat mewn datblygiad newydd, a fydd yn cynnwys tanciau carthion a gwaith trin carthion bach.

156.  Un Llais Cymru.  Manylion cystadleuaeth “Coeden Gymreig y Flwyddyn Cymru”.

157.  Un Llais Cymru.  Dolen i gylchlythyr diweddaraf Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

158.  Un Llais Cymru.  Bwletin Newyddion Gorffennaf 2018.

159.  Llywodraeth Cymru.  Ymgynghoriadau a ychwanegwyd yn ddiweddar y gellir eu gweld ar wefan y Llywodraeth.

160.  GIG Cymru.  Manylion adolygiad ynghylch Gwasanaethau Llawdriniaethau Thorasig yn Ne Cymru.

161.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion ymgynghoriad ynghylch bridio cŵn gartref.

162.  Cyngor Sir Ceredigion.  Copi o hysbysed sy’n galw am gontractwyr a hoffai gael eu cynnwys ar restr o ddarparwyr clirio eira a gwasanaethau eraill sy’n ymwneud ag argyfyngau 2018-19.

163.  Cyngor Sir Ceredigion.  Llythyr sy’n gofyn am sylwadau’r Cyngor ynglŷn â’r ysgol hwylio arfaethedig sy’n cynnwys toiledau ger adeilad yr RNLI.  Yn dilyn pleidlais ymhlith yr aelodau, penderfynwyd anfon llythyr i gefnogi’r bwriad yn llawn.

164.  Cais am Rodd Ariannol.  Mynwent y Garn.  Bydd hyn yn cael ei ystyried ar y cyd â’r holl geisiadau eraill yng nghyfarfod mis Mawrth 2019.

165.  Un Llais Cymru.  Manylion ymgynghoriad ynghylch cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg.

166.  Un Llais Cymru.  Manylion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y polisi Echdynnu Petrolewm yng Nghymru.

167.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr mis Awst a chanfyddiadau amlinellol ac argymhellion yr adolygiad o’r Sector Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.

168.  Un Llais Cymru.  Manylion cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru ar y 28ain o Fedi, ynghyd â’r cynigion terfynol a fydd yn cael eu trafod.

169.  Llywodraeth Cymru.  Galwad am astudiaethau achos ar gyfer adroddiad terfynol yr adolygiad o Gynghorau Tref a Chymuned. Gofynnwyd i’r Clerc ymateb.

170.  Un Llais Cymru.  Bwletin newyddion mis Awst 2018.

171.  Llywodraeth Cymru.  Bwletin newyddion mis Awst 2018.

172.  Tir Comin.  Llythyr oddi wrth Mr James Davies sy’n mynegi pryderon ynglŷn â chyflwr y tir sydd dan berchnogaeth Cyngor Cymuned y Borth. Bydd y mater hwn yn cael sylw dan eitem 10 yr Agenda.

173.  Prosiect Baw Cŵn.  Manylion cyfarfod dilynol wedi’r cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ym mis Awst 2017. Cynhaliwyd yr astudiaeth a chyflwynir y canlyniadau mewn cyfarfod ar ddydd Iau, y 30ain o Awst. Adroddodd y Cyng. Ashley ynghylch y canfyddiadau. Yn anffodus, nid oeddent yn cynnwys y Borth am fod y map sy’n nodi’r ardaloedd sy’n achosi pryder wedi’i golli. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei wneud hyn y dyfodol.

174.  Un Llais Cymru.  Manylion cyfarfodydd lansio’r Rhwydwaith Arloesi Trafnidiaeth drwy Dde, Canolbarth a Gogledd Cymru.

175.  Clerks & Councils Direct.  Rhifyn mis Gorffennaf 2017.

176.  Caeau Chwarae.  E-bost oddi wrth Iwan Foulkes sy’n gofyn a yw Cyngor Cymuned y Borth yn dymuno iddo negodi taliad  Cydnabod Hawddfraint ar ei ran.  Bydd y Cyng. Willcox yn ymchwilio rhagor i hyn.

CYFRIFON

177. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Awst 2018

        Nationwide                                                                     29,637.15

        Cyfri Cymunedol                                                               500.37

        Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                          27,805.45

        Cyfri Adnau                                                                    3,475.76

 

178. Incwm    

        Cyfri Adnau – llog hyd 31 Mai 2018                                 0.60

        Cyngor Sir Ceredigion – 2il randaliad y praesept          6,286.00

        

179. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo’r taliadau canlynol:

        Cynllun Talu Wrth Ennill – Ebrill, Mai a Mehefin         364 .20

        Canolfan Arddio Newmans – gwobrau’r gystadleuaeth

     gwely blodau                          45.00

        Sadie Everard – planhigion ar gyfer gwely blodau             23.95

        Luke Griffiths – arwydd cerdded cŵn a

                    2 ddelwedd ar safleoedd bws              276.00

        Dyfed Alarms – ffi cynnal a chadw camerâu cylch cyfyng    192.00

        M Walker – cyflog 971.52, costau swyddfa 30.04               1,001.56

        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Gorffennaf              99.00

CYNLLUNIO

180.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.

A180681. Codi heulfan a balconi. Lincoln House, Parc Carfanau Brynrodyn, y Borth. Dim gwrthwynebiad.

A180695. Troi garej yn lle ychwanegol i fyw gan greu cyswllt â byngalo sy’n bodoli eisoes drwy goridor gwydr. Hefyd, newid defnydd ystafell ymwelwyr a garej i lety gwyliau ym misoedd yr haf. Van Hyn, Princess Street, y Borth. Datganodd y Cynghorwyr Mike Willcox a Margaret Griffiths fuddiant ac aethant allan o’r ystafell gyfarfod. Mae gan Gyngor Cymuned y Borth bryderon ac mae’n argymell y dylid cyfeirio’r cais at Gyfoeth Naturiol Cymru i gael cyngor ynglŷn â’r cais.

A180774. Codi estyniadau tua’r cefn ac ar y llawr cyntaf ac addasiadau oddi mewn i’r adeilad. Silver Ridge, Ffordd y Fulfran, y Borth. Datganodd y Cyng. Bryn Jones fuddiant a gadawodd yr ystafell.  Dim gwrthwynebiad.

A180789.  Disodli caban wyliau sydd mewn cyflwr gwael â charafán neu gaban newydd. Parc Carafanau Penygraig, Sŵn y Nant, y Borth. Dim gwrthwynebiad.

MAES CHWARAE I BLANT

181.  Yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd wedi archwilio’r maes chwarae, aeth y Cynghorwyr Bainbridge a Willcox i ymweld â’r safle. Mae nifer o faterion sy’n peri pryder yno, ac mae rhai o’r materion hyn wedi cael sylw Rob Griffiths. Penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma. Cost y gwaith yw £500 + TAW. Cytunwyd hefyd i ofyn i Rob Griffiths am bris i ailosod rhai cerrig sarn/boncyffion.

RHEOLAU SEFYDLOG

182. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol wedi cyhoeddi Rheolau Sefydlog enghreifftiol newydd sy’n disodli’r rhai presennol. Ceir rhai mân welliannau o ran drafftio. Ac eithrio’r Rheolau Sefydlog hynny sy’n cynnwys neu sy’n cyfeirio at ofynion statudol newydd, nid oes llawer o newid wedi bod i’r rhan fwyaf ohonynt er 2013. Cymeradwywyd y Rheolau Sefydlog hynny a ofynnai i’r Cyngor ychwanegu gwybodaeth, ynghyd ag opsiynau amgen y gall y Cyngor ddewis o’u plith wrth benderfynu ynghylch rhai Rheolau Sefydlog. Penderfynodd yr Aelodau fabwysiadu’r Rheolau Sefydlog yn amodol ar gael eglurhad ynghylch ystyr “Meetings Generally”, 3f a 3g.

TIR COMIN

183.  Llythyr oddi wrth Mr James Davies ynglŷn â chyflwr tir comin dan berchnogaeth Cyngor Cymuned y Borth ger Sw'r Borth. Mae’n honni ei bod yn anodd i’r cyhoedd gael mynediad i’r tir hwn. Mae ffens yn amgylchynu’r rhan fwyaf o’r tir. Mae hefyd wedi dod i wybod bod llawer o ddefnydd ar weiren bigog yno. Mae’n gofyn i’r Cyngor Cymuned gymryd camau ynghylch y mater hwn a materion eraill sy’n ymwneud â Thir Comin y mae wedi’u codi yn y gorffennol. Yn dilyn cyfarfod â Mr Owen Jenkins, sydd â chontract i bori’r tir, soniodd y Cyng. Carol Bainbridge wrth y Cyngor bod Mr Jenkins wedi symud y weiren bigog dros y gât ond ei fod yn gwrthod symud y weiren bigog sydd ar ben y ffens sy’n amgylchynu’r tir. Gofynnwyd i’r Clerc ysgrifennu at Mr Jenkins.

CYFETHOL AELODAU I WASANAETHU AR Y CYNGOR

184.  Dosbarthodd y Clerc gopïau o ddau gais a ddaeth i law, y naill oddi wrth Mr Hugh Hughes a’r llall oddi wrth Mr Phil Turner-Wright.  Ystyriodd yr Aelodau y ddau gais a phenderfynwyd cyfethol y ddau yn aelodau o Gyngor Cymuned y Borth yn y cyfarfod ym mis Hydref. 

MATERION Y CADEIRYDD

185.   Dywedodd y Cyng. Bainbridge iddi gael sgwrs â Mr Billy Williams yn ddiweddar. Cadarnhaodd Mr Williams nad oedd yn gallu dychwelyd i Gyngor Cymuned y Borth oherwydd amgylchiadau personol. Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad am y Rhyfel Byd Cyntaf. Gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn barod i dalu am argraffu 50 yn rhagor o lyfrynnau. Penderfynodd yr aelodau neilltuo £200 i argraffu 50 yn rhagor o gopïau. Trefnwyd dwy sesiwn ymwybyddiaeth ynglŷn â chyflymdra yn ystod yr haf. Dywedodd y Cyng. Bainbridge y byddai’r Cylch Meithrin yn ailagor yr wythnos hon a rhoddodd ddiweddariad byr ynglŷn â’r Cyngor Iechyd Cymuned.

CYFRIFOLDEBAU’R CYNGHORWYR

186.  Dywedodd y Cyng. Dalton y cynhelir y cyfarfod PACT nesaf ar yr 20fed o Fedi. Dywedodd fod sbwriel o gartrefi sy’n cael ei adael allan ar y strydoedd rai dyddiau cyn y diwrnod casglu sbwriel yn broblem enfawr. Dywedodd hefyd fod poteli’n cael eu gadael y tu allan i’r banc poteli. Rhaid cael carreg gopa newydd gyferbyn â safle’r hen siop Hennigans.

Dywedodd y Cyng. James wrth yr aelodau fod ceudwll yn y ffordd ger Brynbwl ac o leiaf ddau neu dri arall ar hyd y ffordd honno.

Dywedodd y Cyng. Griffiths ei bod yn ymddangos bod dŵr wyneb ar y ffordd ger Glanwern a bod carafán fechan wedi’i pharcio ar y stryd ger y fferyllfa.

Mae’r Cyng. Ashley wedi cysylltu â 3GS unwaith yn rhagor ond nid ydynt yn dychwelyd ei galwadau yn dilyn y sgwrs gychwynnol. Mae’r arwydd cŵn ar y polyn ger Ynys Wen wedi’i throi â’i hwyneb i waered ac mae’r rhybudd gynllunio sy’n ymwneud â gorchmynion traffig ar odre Ffordd Clarach wedi diflannu.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

187.  Hysbysodd y Cyng. Quant yr aelodau y bydd y gwasanaeth bws 7.15am yn dirwyn i ben yn fuan. Nid oes dim diweddariad ynghylch y carafanau wrth y Bont Arian. Mae’r Cyng. Quant wedi gwneud cais am waith atgyweirio ar y gofeb ryfel ar ôl cael dyfynbris o £4500. Hefyd, rhaid ychwanegu enwau at y gofeb ryfel yng nghyntedd y Neuadd Gymunedol. Bydd hyn yn costio oddeutu £950.

Y CYFARFOD NESAF A’R MATERION I’W CYNNWYS AR YR AGENDA

188.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 10.00pm.  Ymhlith yr eitemau ar agenda’r cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, y 1af o Hydref 2018 fydd y maes chwarae. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                                                                                         

  • Hits: 3474