• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Ebril 2021

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 12FED O EBRILL 2021 AM 19.00 O'R GLOCH

 

Presennol:       Cadeirydd:                      H Hughes
                                                                 C Bainbridge 
                                                                 R Dalton
                                                                 R Davies
              M Griffiths
              G B Jones
                                                                A J Morris
                                                                D Pryce Jones
                                                                A Thomas (aelod cyfetholedig newydd)
                                                                D Tweedy                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:          R P Quant
                                  Clerc:                   M Walker            
                                                               3 aelod o'r cyhoedd. 
 
Cyn i'r cyfarfod gychwyn, gofynnodd y Cyng. Hughes i'r Aelodau nodi munud o dawelwch er cof am Ddug Caeredin a fu farw'n ddiweddar.

YMDDIHEURIADAU

291.  Y Cyng. J James.
 
CYFETHOL AELOD NEWYDD I'R CYNGOR
 
292.  Estynnodd y Cadeirydd, y Cyng. Hugh Hughes, wahoddiad i Mrs Amy Thomas ymuno â'r Cyngor. Tyngodd lw'r Datganiad Derbyn Swydd ac fe'i croesawyd yn Aelod o Gyngor Cymuned y Borth. Bydd copi o'r Cod Ymddygiad a'r Rheolau Sefydlog yn cael eu hanfon at y Cyng. Thomas dros e-bost.
 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
293.  Mynegodd Mr James Davies bryderon ynglŷn â'r ffaith bod preswylwyr yn anfodlon â'r rhwystrau sydd wedi'u gosod gan Gyngor Sir Ceredigion i ddynodi'r parthau diogel. Bydd y mater hwn yn cael ei drafod dan Gofnod 313.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
294. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
295. Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd o bell ar y 1af o Fawrth 2021 yn gywir ar yr amod bod Cofnod 267 yn cael ei newid. Mae'r cofnod wedi'i newid ac mae bellach yn darllen fel a ganlyn: ‘Daeth cais i law i gyfrannu arian cyfatebol tuag at Hwb Cymunedol y Borth am dair blynedd gan y byddant yn cyflwyno'u cais am gyllid Pobl a Llefydd y Loteri Genedlaethol ddechrau Mawrth’. Datganodd tri Chynghorydd fuddiant ar yr adeg hon. Cytunwyd y byddai'r cais hwn yn cael ei ystyried fel yr eitem olaf ar yr agenda pan fyddai'r tri Aelod wedi gadael y cyfarfod. Cyn y drafodaeth honno, gadawodd y Cynghorwyr Bainbridge, Hughes a Dalton y cyfarfod. Cynigiodd y Cyng. Jones fod y Cyngor yn cyfrannu £500 dros gyfnod o dair blynedd. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. James a phleidleisiodd pob Aelodau a oedd yn bresennol o'i blaid.
 
Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
296.  Cofnod 259.  Yn sgil cyflwyniad Peter Skitt y mis diwethaf, hysbysodd y Cyng. Jones yr Aelodau ei fod wedi cael gwahoddiad i ymuno mewn cyfarfod rhithiol gan mai ef yw swyddog cyswllt y Cyngor Cymuned. Mynegodd y Cyng. Bainbridge bryderon na ddilynwyd y broses ddemocrataidd pan benderfynodd y Cyng. Hughes fel Cadeirydd i ofyn i'r Cyng. Jones gynrychioli'r Cyngor. Codwyd y mater hwn mewn llythyron gan dri Aelod at y Cadeirydd ar ôl y cyfarfod ym mis Mawrth. Dywedodd y Cyng. Bainbridge na all Cadeirydd y Cyngor wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor ac y dylid fod wedi enwebu rhywun i fod yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw drwy gynnal pleidlais. Penderfynodd y Cyngor felly i gynnal pleidlais i ddewis enwebai. Cynigiodd y Cyng. Hughes fod y Cyng. Bryn Jones yn gweithredu fel swyddog cyswllt i'r Cyngor. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cyng. Dalton a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o'i blaid. Ni chafwyd dim enwebiadau eraill.
 
GOHEBIAETH
 
297.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd gan Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
 
298.  Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Diogelu Cymru.  Mae'r holl ohebiaeth a ddaeth i law yn ystod y mis wedi'i hanfon at bob Cynghorydd dros e-bost. Gorchwyl y Swyddog Tai yng Nghyngor Sir Ceredigion yw dod o hyd i 10 eiddo gwag yn y sir dros y 12 mis nesaf, ac mae'n gofyn am gymorth i ddod o hyd iddynt ac i roi ei fanylion i'r perchnogion. 
 
299.  Gohebiaeth Arall   Llythyron sy'n diolch am y rhoddion ariannol tuag at fynwent y Garn a'r Tincer. Llythyr hefyd oddi wrth Hwb Cymunedol y Borth sy’n diolch i'r Cyngor am ymrwymo i dalu £500 bob blwyddyn am dair blynedd.
 
300.  Cyflwyno Mainc. Cais gan ymwelydd â'r Borth am fainc gyhoeddus i'w chyflwyno i'w chi a chais arall am osod plac coffa ar bromenâd y Borth. Cynigiwyd bod y Clerc yn ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i holi sut mae mynd ati i fabwysiadu meinciau ac i osod placiau arnynt.
 
 
302.  Prosiect y Cwtiaid.  Llythyr sy'n diolch i'r Cyngor am y ffi am y gwaith celf cwtiaid torchog. Ms Adamson oedd â'r hawlfraint dros y ddau waith celf ac mae wedi rhoi caniatâd i'r gweithiau gael eu defnyddio mewn ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus sy'n ymwneud â diogelu cwtiaid torchog ar y traeth. Penderfynodd yr aelodau ganiatáu i bosteri gael eu dangos yn ffenestr Uncle Leo's. Dywedodd y Cyng. Bainbridge fod y grŵp sy'n gyfrifol am y prosiect yn dymuno gosod baner ger gorsaf y Bad Achub.
 
303.  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Mae gan bob Cynghorydd hawl i dderbyn £150 tuag gostau a threuliau. Does dim angen optio i mewn i fod yn gymwys am y taliad hwn. Serch hynny, mae hawl gan Gynghorydd ei wrthod. Rhaid i Gynghorwyr sy'n dymuno gwneud hynny ysgrifennu at y Clerc.
 
CYFRIFON
 
304. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mawrth 2021
        Nationwide                                                                                         30,229.71
        Cyfrif Cymunedol                                                                              17.501.31
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                             15,341.59
        Cyfrif Adnau                                                                                        3,749.10
 
305. Incwm 
        Cyngor Sir Ceredigion – grant am y maes chwarae                          4,981.00
        Cyfrif Cymunedol – rhent am y safleoedd tirlenwi ac
                            amwynderau dinesig                                                       4.616.50
        Cyfrif Cymunedol – Taliad Fforddfraint Scottish Power                       34.51
        Trosglwyddiad o’r Cyfrif Cymunedol i’r Cyfrif Adnau                        80.00
        Cyfrif Adnau – llog gros hyd 4/3/21                                                         0.09
        Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 4/3/21                                          0.38
        Cyngor Sir Ceredigion - cyllid grant tuag at brosiect
        y cwtiaid                                                              86.62
        Nationwide – llog gros hyd 31/3/21                                                        80.86
 
306. Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
        Seren Signs – Prosiect y Cwtiaid                                                           503.28
        Gabrielle Adamson – gwaith celf                                                           175.00
        Tanwen Haf – Dylunio Graffeg                                                                70.00
        Y Lolfa – argraffu posteri A4 ac A3                                                         40.00
        Redlynch Leisure -  cyfarpar y maes chwarae                                 12,159.60
        TME Electrical Contracting Cyf. - gosod goleuadau'r
                                     goeden Nadolig a'u tynnu i lawr                               300.00
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill
         Ionawr, Chwefror a Mawrth                                                                 391.60
        Tâl aelodaeth Un Llais Cymru                                                              280.00
        Robert Hunt – atgyweirio'r fainc yn Heol Aberwennol                       191.46   
        Y Comisiynydd Gwybodaeth – Ffi gwarchod data                               40.00
        M Walker-cyflog £522.20,  costau swyddfa   £27.90                           550.10
        Dyfed Alarms Cyf. – Cytundeb gwasanaeth y Camerâu Cylch
        Cyfyng                                                                                                    180.00                                                             
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Mawrth                                91.10
        Trosglwyddiad o’r Cyfrif Cymunedol i’r Cyfrif Adnau                        80.00          
 
Y cynigydd oedd y Cyng. Davies a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
CYNLLUNIO
 
307.  Cais am Ganiatâd Cynllunio.
A210197.  Trosi sied storio segur yn llety gwyliau hunan-ddarpar. Felinwern, Glanwern, y Borth.
A210219.  Codi estyniad i annedd bresennol. Penrhiw, Cliff Road, y Borth.
Ni chafwyd dim sylwadau ac ni wrthwynebodd neb.
 
HYSBYSFYRDDAU
 
308.  Dywedodd y Cyng. Dalton y bydd angen gwneud peth gwaith atgyweirio ar bob un o'r pum hysbysfwrdd. Cynigiodd y Cyng. Bainbridge y dylai'r Cyngor neilltuo £500 tuag at y gwaith hwn. Eiliwyd hynny gan y Cyng. Jones a phleidleisiodd y Cynghorwyr yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MEINCIAU
 
309.  Cadarnhaodd y Clerc fod arolwg wedi'i gynnal o'r meinciau. Roedd angen atgyweirio rhai ohonynt ac roedd angen côt o baent ar bob un ohonynt. Cynigiwyd bod Cyngor Cymuned y Borth yn ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i holi sut mae gosod placiau coffa ar feinciau ac a oedd angen caniatâd i wneud hynny. Cytunwyd hefyd i grybwyll bod angen paentio/atgyweirio'r rhan fwyaf o'r meinciau. Cynigiodd y Cyng. Bryn Jones fod y Cyngor yn neilltuo £500 tuag at y meinciau picnic ger y maes chwarae. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Pryce Jones.
 
LLIFOGYDD A FFOSYDD
 
310. Mae'r mater yn parhau.
 
Y MAES CHWARAE
 
311.  Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynghylch y cyfarpar newydd yn y maes chwarae a chadarnhaodd y bydd yr holl arwyddion wedi'u gosod cyn i'r maes chwarae agor ddydd Gwener, yr 16eg o Ebrill.
 
Y PARC CYCHOD
 
312.  Bydd y Cyng. Hughes yn trefnu bod yr is-bwyllgor yn cwrdd i drafod sut y gellir bwrw 'mlaen â'r mater hwn.
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
313.  Yn dilyn trafodaeth fer, cytunwyd i ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am adolygiad o'r rhwystrau diogelwch ac i ofyn am faner 'cadwch bellter cymdeithasol' ger adeilad y Bad Achub. Mae rhai o'r arwyddion hefyd wedi'u tynnu i lawr. Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cyngor gysylltu â pherchennog newydd yr hen siop wyliau nad yw wedi'i defnyddio ers degawdau. Mae'r siop yn ymestyn tua'r palmant, ac ychydig iawn o le sydd i bramiau neu gadeiriau olwyn basio yn y fan hon.
 
GRŴP LLYWIO'R BORTH
 
314.  Ysgrifennodd tri Aelod o'r Cyngor at y Cadeirydd i fynegi'u pryderon ynglŷn â'r penderfyniad i sefydlu'r grŵp heb iddynt wybod am hynny ymlaen llaw ac am y ffaith na chafwyd trafodaeth ynghylch hyn yng nghyfarfodydd y Cyngor. Bu dadlau rhwng y Cyng. Bainbridge a'r Cyng. Griffiths ynghylch p'un a ddilynwyd y broses ddemocrataidd ai peidio pan sefydlwyd y grŵp yn wreiddiol ac a ddylai'r Cyngor Cymuned fod wedi arwain ar y mater hwn. Esboniodd y Cyng. Davies y cododd y syniad mewn sgwrs â gwahanol bobl yn y pentref ynglŷn â'u gweledigaeth dymor hir ar gyfer y Borth. Ategodd mai'r bwriad oedd creu grŵp lled braich ac un a oedd yn annibynnol ar Gyngor Cymuned y Borth.
                                     
MATERION Y CADEIRYDD
 
315.  Gofynnodd y Cyng. Hughes i'r Cyngor ystyried sbwriel (Cofnod 271) mewn eitem ar yr agenda yn y dyfodol. Mae'r Cyng. Hughes wedi delio â gorchuddion y tyllau archwilio sy'n swnllyd.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
316.  Bydd y Cyng. Dalton yn trefnu bod y baneri cŵn yn cael eu gosod ar y 1af o Fai.
Mae'r Cyng. Pryce Jones wedi gofyn i'r achubwyr bywydau sicrhau bod perchnogion cŵn yn gwybod am y gwaharddiad cŵn ar y traeth sy'n dod i rym ar y 1af o Fai.
Dywedodd y Cyng. Jones fod y mieri yn tyfu drwy'r rheiliau ar waelod y rhiw tuag at y clogwyn.
Gofynnodd y Cyng. Griffiths a oedd y gwelyau blodau ym mhen gogleddol y pentref yn cael gofal. Dywedodd y Cyng. Jones fod Martine Ormerod wedi trafod dod yn berchennog ar y gwelyau blodau.
Dywedodd y Cyng. Hughes fod y contract Zoom 12 mis ar fin dod i ben. Cynigiodd y Cyng. Jones ein bod yn adnewyddu'r contract am flwyddyn arall. Eiliwyd hyn gan y Cyng. Davies a phleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
317.  Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad byr ynghylch y rhaglen frechu a rhannodd rai ystadegau ynglŷn â'r wythnos a fu. Cafwyd diweddariad byr ynglŷn â'r cyfarfod y bu'n bresennol ynddo i drafod y caeau chwarae ac i adolygu'r gwaith arfaethedig ar y siambr falfiau. Nododd y Cyng. Morris mai ei ddealltwriaeth ef oedd nad oedd gofyn i fyfyrwyr a oedd yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth gael prawf COVID-19 ac mai eu dewis nhw oedd hynny. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n holi Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn â'r mater.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
318.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.40pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, y 10fed o Fai 2021 fydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Llifogydd a Ffosydd, y Maes Chwarae, Meinciau, y Parc Cychod a Chadw Pellter Cymdeithasol ar Stryd Fawrth y Borth. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu unrhyw eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y
 
  • Hits: 873