• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Awst 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 3YDD O AWST 2020 AM 19:00 O'R GLOCH

 

Presennol:   Cadeirydd:                    H Hughes
                                                         C Bainbridge   
                                                         R Dalton                                 
                                                         R Davies          
                                                         G B Jones
                                                         A J Morris
                                                         D Pryce Jones
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:      R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                            3 aelod o'r cyhoedd. 
 

YMDDIHEURIADAU

28.  Y Cynghorwyr M Griffiths, J James a D Tweedy.

 
CYFRANOGIAD Y CYHOEDD
 
29.  Mae Dr Andrea Hughes yn pryderu nad oes digon o gerddwyr yn cadw pellter cymdeithasol a bod rhai yn cerdded ar y ffordd er mwyn osgoi cyswllt agos â phobl eraill. Awgrymodd y dylid cyflwyno cyfyngiad cyflymder 20m.y.a. drwy'r pentref.
 
DATGAN BUDDIANNAU
 
30. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 
 
COFNODION Y CYFARFOD MISOL
 
31. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 6 Orffennaf 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Jones. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
COFNODION Y CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
 
32.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bryn Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
MATERION YN CODI
 
33.  Parc Cychod y Borth.  Cofnod 5 a 14. Rhoddodd y Cyng. Hughes ddiweddariad byr yn sgil cyfarfod diweddar â chyd-gynghorwyr i drafod y parc cychod. Roedd rhai cynghorwyr yn poeni am yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae'r Clerc wedi gofyn am eglurder ynglŷn â'r mater hwn oddi wrth gwmni yswiriant y Cyngor. Cytunwyd bod angen gwell arwyddion dwyieithog. Nodwyd, fodd bynnag, y bydd arwyddion dros dro yn cael eu codi ac y gwaredir â'r holl fetel sydd wedi rhydu. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig. Cytunwyd hefyd i greu cyfeiriad e-bost newydd ar gyfer perchnogion cychod.
 
GOHEBIAETH
 
34.  Y Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth oddi wrth Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. 
 
35.  Llywodraeth Cymru.  Manylion yr ymgynghoriadau a gynhelir ar hyn o bryd a rhifyn mis Gorffennaf o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
36.  Ymgynghoriad ar waredu â ffonau talu BT.  E-bost oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion sy'n cadarnhau y bydd ffonau talu yn cael aros os bydd unrhyw wrthwynebiad iddynt gael eu symud.
 
37.  Un Llais Cymru.  Manylion digwyddiad rhyngweithiol ar y 15fed o Orffennaf, "Neuadd y Dref Rithwir - Dyfodol Neuaddau Tref" a diweddariad oddi wrth Enwau Lleol ar gyfer Natur.
Y Strategaeth ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Bwletin Newyddion mis Gorffennaf 2020.
Rhestr wirio i reoli gweithio o gartref.
Fideo gynadledda StarLeaf - manylion fersiwn drwyddedig o'r feddalwedd.
Diweddariad yn sgil cyfarfodydd pwyllgorau ardal Un Llais Cymru.
Manylion hyfforddiant drwy gyfrwng gweminarau i bob Cyngor.
 
38.   Picton House.  Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, mae preswylydd lleol wedi gwneud cais i'r Cyngor drafod ailenwi'r eiddo â'r perchnogion. Cytunwyd i hysbysu'r preswylwyr drwy lythyr bod llythyr wedi dod i law'r Cyngor a bod y mater wedi'i godi â Chyngor Sir Ceredigion. Y cynigydd oedd y Cyng. Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Pryce Jones.
 
39.   Cyngor Sir Ceredigion.  Adroddiad Blynyddol Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys 2019-20.
 
40.   Parcio yn Ynyslas.  E-bost sy'n mynegi pryder ynglŷn â'r cerbydau sy'n parcio ar ymyl y ffordd rhwng Ynyslas ac aber yr afon. Er nad oes dim cyfyngiadau parcio yn y fan hon, awgrymwyd y dylai'r preswylwyr dynnu lluniau i brofi bod hyn yn digwydd ac i gadarnhau eu pryderon. Gofynnwyd i'r Clerc anfon llythyr at Heddlu Dyfed Powys. Cytunwyd i adolygu'r sefyllfa barcio yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
 
41.   Y maes parcio ar safle'r Hen Neuadd.  E-bost oddi wrth un o berchnogion y safle sy'n hysbysu'r Cyngor nad yw'n dymuno bod yn rhan o'r trefniant anffurfiol mwyach yn sgil problemau parcio diweddar. Mae'r trefniant hwn wedi bod yn llwyddiant ers degawdau ac mae pobl leol wedi elwa'n fawr arno. Cyngor Cymuned y Borth sy'n berchen ar y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal hon, ac awgrymodd y Cyng. Quant y gellid troi'r ardal yn fan parcio i breswylwyr yn unig ac y gallai pobl leol gael trwydded i barcio yno. Cynigiodd y Cyng. Bryn Jones bod y Cyngor yn codi arwydd "Parcio i Breswylwyr yn Unig" sy'n cyfeirio ymwelwyr at y maes parcio sy'n rhad ac am ddim ym mhen deheuol y pentref. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Davies.  Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
42.  Chwarae Chwarae Uppingham.  Cais i'r Cyngor am arwydd barhaol sy'n gwahardd cŵn rhag mynd ar y caeau chwarae.  Penderfynwyd gosod arwyddion wedi'u lamineiddio dros dro tra bod arwyddion plastig neu alwminiwm yn cael eu harchebu.  Cynigiodd y Cyng. Bryn Jones bod y Cyngor yn neilltuo £500 ar gyfer pob arwydd. Yn eu plith y mae'r 2 arwydd ar gyfer y caeau chwarae, 2 ar gyfer y parc cychod (cofnod 33) ac 1 ar gyfer y maes parcio (cofnod 41).
 
43.  Paratoi am drychinebau a diogelwch i deithwyr. E-bost sy'n gofyn i'r Cyngor rannu adnodd defnyddiol o'r enw "Arweiniad Diogelwch Parodrwydd am Drychinebau i Bobl ar eu Gwyliau" sydd ar wefan gymunedol y Borth.
 
44.   Gohebiaeth Arall  Clerks & Councils Direct.
 
CYFRIFON
 
45. Balans y Cyfrifon ar 13 Gorffennaf 2020
      Nationwide                                                                           30148.85
      Cyfrif Cymunedol                                                                 10,384.59
      Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                                15,340.46
      Cyfrif Adnau                                                                          3,668.83
 
46. Incwm 
      Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi –
ad-daliad TAW 2019/20                                                            1,195.78
      CSC – 2il daliad y praesept                                                 7,290.00
                 
47. GwariantPenderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
      MrFlag  – Baner y Ddraig Goch                                              85.80
      M Walker –
cyflog y Clerc £508.00,  costau swyddfa £28.10                          536.10                        
      Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Gorffennaf              59.25
      
CYNLLUNIO
 
48.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
Dim.
 
CŴN
 
49.  Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.
 
 
SAFLEOEDD BWS
 
50.  Roedd y Cyng. Dalton wedi gofyn i adeiladwr lleol gynnal y gwaith atgyweirio ar y safle bws ond nid oes modd iddo’i wneud mwyach gan ei fod wedi symud o'r ardal. Cynigiodd y Cyng. Jones y dylid awdurdodi Phil Dalton i atgyweirio'r safle bws am £300. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bainbridge. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig ac ymatalodd y Cyng. Rona Dalton.
 
Maes Chwarae
 
51.  Am resymau diogelwch, bydd y maes chwarae yn parhau i fod ynghau am y tro tan i'r holl waith atgyweirio yn sgil adroddiad ROSPA ddod i ben.
 
CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR STRYD FAWR Y BORTH
 
52.  Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion yn dod i archwilio'r pentref yr wythnos hon er mwyn troi'r pentref yn Barth Diogel. Er mwyn gwneud pethau'n fwy diogel i gerddwyr, bydd atalfeydd yn cael eu defnyddio i ledaenu'r palmant mewn rhai mannau.
 
CAMERÂU CYLCH CYFYNG - Y PRIF FAES PARCIO
 
53.  Dywedodd y Cyng. Hughes fod tipyn o dipio anghyfreithlon yn digwydd yn y maes parcio gyferbyn â Brynowen. Mae wedi siarad â chynrychiolydd o Gyngor Sir Ceredigion ac awgrymwyd y dylid prynu camera dros dro am £20 hyd nes y bydd y camerâu cylch cyfyng parhaol ar gael. Bydd Cyngor Cymuned y Borth yn cydweithio â'r Swyddog Amgylcheddol ar y mater hwn. Y cynigydd oedd y Cyng. Delyth Pryce Jones a'r eilydd oedd y Cyng. Bainbridge.
                                               
MATERION Y CADEIRYDD
 
54.  Mae'r gât i mewn i'r prif faes parcio yn cael ei gadael ar agor yn aml. Gallai hyn arwain at gerbydau gwersylla ac ati yn parcio yno’n anghyfreithlon. Awgrymodd y Cyng. Hughes y dylid cael clo cyfunrhif. Cynigiodd y Cyng. Pryce Jones bod y Cyngor gwario £40 ar glo ac eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Bryn Jones. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y cynnig hwn. Mae angen atgyweirio'r meinciau wrth odre Francis Road ac ar hyd llwybr troed Uppingam. Cytunodd yr aelodau i ofyn i Mr Rob Hunt ymgymryd â'r gwaith hwn. Gohiriwyd y mater tan ddiwedd y cyfarfod pan ddatganodd y Cyng. Pryce Jones fuddiant cyn gadael yr ystafell. Awgrymodd y Cyng. Bryn Jones y dylid neilltuo £300 ar gyfer y gwaith ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cyng. Davies. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.
 
CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
55.  Gwirfoddolodd y Cynghorwyr i ysgwyddo'r cyfrifoldebau canlynol:          
 
C Bainbridge Y Parc Cychod, y Lle Chwarae i Blant, Llywodraethwr Ysgol Craig yr Wylfa, y Rhyfel Mawr, y Cyngor Iechyd Cymuned, y Celfyddydau, Goryrru a Facebook
R Dalton  Y Parc Cychod, PACT, Ymddiriedolwr y Ganolfan Deuluol a Thai, Gwirfoddolwyr yn Amgueddfa'r Orsaf Reilffordd a Chydlynydd Llifogydd
R Davies  Cynrychiolydd y Cyngor ar Bwyllgor y Neuadd a Chydlynydd Llifogydd
M Griffiths Un Llais Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Iechyd
H Hughes  Y Parc Cychod, Tir Comin, y "Goeden", Facebook a'r Wefan, Cydlynydd Tân a Llifogydd
J James    PACT a Materion yr Heddlu
D Jones   Y Parc Cychod, Sbwriel, Cŵn a'r Eisteddfod Genedlaethol
G B Jones  PACT, y Celfyddydau'r a'r Gymraeg, Archwiliwr Ariannol Allanol a Diffibrilwyr
A J Morris     Y Parc Cychod, Biosffer Dyfi, Cydlynydd Llifogydd, Dyfrffosydd a Draenio Ffosydd Mewnol, Archwilydd Ariannol Mewnol
D Tweedy    Celf
 
Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Bainbridge yn sgil cyfarfod Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda a gynhaliwyd yng Ngorwelion. Ategodd fod y Cyng. Tweedy wedi paentio enfys ar safle bws yn Ynyslas. Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad yn sgil rhai digwyddiadau a gynhaliwyd yn lle'r Carnifal eleni.
Dywedodd y Cyng. Dalton fod cerbydau gwersylla yn parcio'n barhaus gyferbyn â Pebbles er bod parcio dros nos yn y fan hon wedi'i wahardd.
Soniodd y Cyng. Jones y cafwyd problemau mawr â gwylanod yn codi sbwriel o'r biniau ac yn ei wasgaru ymhobman. Mae dŵr yn parhau i fyrlymu o ymyl un o'r tai ar Cliff Road ac nid oes neb yn derbyn cyfrifoldeb am y broblem. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai'n gofyn i Rhodri Llwyd o Gyngor Sir Ceredigion ddod i weld y fan hon pan fydd yn ymweld â'r pentref yn nes ymlaen yn yr wythnos er mwyn ystyried troi'r Borth yn Barth Diogel.
Mae'r Cyng. Pryce Jones yn pryderu am feicwyr nad ydynt yn stopio ar y gyffordd ar waelod Cliff Road wrth i'r ffordd honno ymuno â Ffordd Clarach, a gofynnodd i'r Cyngor ystyried gosod arwydd ‘Rhowch Ffordd'. Bydd y Cyng. Quant yn ymchwilio i hyn.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
56.   Cafwyd diweddariad gan y Cyng. Quant ynglŷn â'r sefyllfa COVID-19 yn y sir. Bu'n bresennol yr wythnos flaenorol mewn cyfarfod i drafod Cam 3 cynllun yr amddiffynfa fôr. Dywedodd y Cyng. Quant nad oes hawl gan neb barcio dros nos ym maes parcio'r Cwrs Golff er bod cerbydau gwersylla yn parcio yno. Soniodd y Cyng. Quant fod arweinwyr cynghorau yn galw am drefniadau tebyg i'r rhai presennol ar gyfer y Deyrnas Gyfunol pan fyddwn yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.  Cynhelir Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan ar ddydd Sadwrn, y 15fed o Awst, a bydd pobl yn ymgynnull wrth y gofeb am 6pm.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
57.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 21.27pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf nos Lun 7 Medi 2020 fydd Cŵn, y Maes Chwarae, y Parc Cychod, Parthau Diogel a'r Cyfryngau Cymdeithasol. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.                             
  • Hits: 1133