• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - (Anghysbell) - Mis Gorffennaf 2020

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD O BELL
NOS LUN, Y 6ED O ORFFENNAF 2020 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol:   Cadeirydd:                   H Hughes
                                                         R Dalton
                                                         C Bainbridge                                       
                                                         R Davies                                              
                                                         G B Jones
                                                         A J Morris
                                                         D Pryce Jones
                                                         D Tweedy                                                                                                        
Yn bresennol:  Cynghorydd Sir:      R P Quant
Clerc:                                                M Walker            
                                                          2 aelod o'r cyhoedd. 
 

YMDDIHEURIADAU

1. Y Cynghorwyr M Griffiths a J James

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

2.  Dim.

DATGAN BUDDIANNAU

3. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. Datganodd y Cyng. Davies fuddiant cyn y cyfarfod yng nghyswllt cais cynllunio A200445, gan mai ei eiddo ef oedd dan sylw. Ar ôl cael cyfarwyddyd oddi wrth Un Llais Cymru, penderfynwyd y bydd y Cyngor yn gofyn i'r Cyng. Davies adael y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei drafod.

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

4. Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2020. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. Morris. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid y cynnig.

MATERION YN CODI

5.  Prydles y Parc Cychod.  Cofnod 400. Darllenwyd llythyr oddi wrth Emma dan 'Gohebiaeth”.

GOHEBIAETH

6.    Coronafeirws.  Diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth oddi wrth Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. 

7.    Llywodraeth Cymru.  Rhifyn mis Mehefin o fwletin Cyfoeth Naturiol Cymru.

8.    Un Llais Cymru.  Bwletin Mehefin 2020, Cylchlythyr Etholiadol mis Mehefin, llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a manylion "Hyfforddiant Troseddau Casineb."

9.    Ecodyfi.    Y diweddaraf.

10.  Cyngor Sir Ceredigion.  Cylchlythyr mis Mai Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda a manylion yr ymgynghoriadau diweddaraf ar waredu â ffonau talu BT. Gofynnwyd i'r Clerc weithredu yng nghyswllt gwrthwynebiad y Cyngor i'r bwriad i waredu â'r ffonau talu yn Ynyslas a'r ffôn talu ar safle'r hen neuadd.

11.  Cynllun Argyfyngau.  E-bost oddi wrth Jill Bullen yn gofyn a yw'r Cyngor bellach yn barod i argraffu’r Cynllun a'i anfon o dŷ i dŷ. Cytunwyd i ddechrau ymchwilio i'r costau. Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r Cynllun yn cael eu rhoi ar y wefan ac ar Facebook.

12.  Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Aberystwyth - Amwythig.  Manylion cynlluniau'r pwyllgor ar gyfer 2020-2025.

13.  ROSPA.  Adroddiad yn sgil yr Archwiliad Diogelwch a gynhaliwyd ar Gaeau Chwarae Uppingham.

14.  Parc Cychod y Borth.  Darllenodd y Clerc lythyr oddi wrth Emma a anfonwyd at bob aelod cyn y cyfarfod. Datganai Emma yn y llythyr ei bod yn tynnu'n ôl o Barc Cychod y Borth. Yn ei habsenoldeb, anfonodd y Cyng. Margaret Griffiths e-bost at Emma i ymateb i'w llythyr. Darllenodd y Clerc gynnwys yr e-bost hwnnw hefyd. Bydd y Cadeirydd yn ymateb i'r llythyr.

15.  Clwb Pêl-droed Unedig y Borth.  Cais am £2000 tuag at waith cynnal a chadw'r caeau chwarae.

Yn dilyn trafodaeth hir, cytunwyd i roi £1500 a chytunwyd i fwrw golwg unwaith eto ar sefyllfa'r Clwb yn hwyrach yn y flwyddyn ac i roi rhagor o gymorth petai'i angen arnynt. Bydd y Cyngor hefyd yn ymchwilio i ffyrdd eraill o ariannu gwaith cynnal a chadw'r tir, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd cyfrifoldeb dros y contract. Y cynigydd oedd y Cyng. Morris a'r eilydd oedd y Cyng. Rhydian Davies. Pleidleisiodd pob aelod o blaid y cynnig.

Gofynnwyd i'r Clerc hefyd anfon manylion cyfleoedd i ymgeisio am gyllid grant at y Clwb.

16.  Coeden.  Copi o lythyr oddi wrth Feddygfa'r Borth at y Swyddog Cynllunio yng Nghyngor Sir Ceredigion sy'n ymwneud â'r bwriad i godi coeden ar draeth y Borth a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar breswylydd sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac sy'n ystyried bod cerdded y traeth yn rhan o'i therapi.

17.  Hywel Dda.  Cylchlythyr mis Mehefin Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

CYFRIFON

18. Balans y Cyfrifon ar 13 Mehefin 2020
        Nationwide                                                                          30,148.85
        Cyfrif Cymunedol                                                               12,920.64
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd                                               14,144.68
        Cyfrif Adnau                                                                          3,668.83
19. Incwm 
        Cyfrif Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 4 Mehefin             6.61               
        Cyfrif Adnau – llog gros hyd 4 Mehefin                                     1.71
                 
20. Gwariant – Penderfynodd yr aelodau dalu’r canlynol:  
        Playsafety Limited – adroddiad yn sgil yr archwiliad
          blynyddol                                            107.40
        Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi - Cynllun Talu Wrth Ennill
Ebrill, Mai a Mehefin                                                            381.00
        M Walker – cyflog y Clerc 508.00, 
costau swyddfa 20.05                                                528.05                                 
        Heledd Davies – cyfieithu cofnodion mis Mehefin                     54.30
        Clwb Pêl-droed Unedig y Borth – rhodd ariannol                  1,500.00

CYNLLUNIO

21.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.

A200414.  Codi annedd. Plot gerllaw Haulfor, Francis Road, y Borth. Dim gwrthwynebiad.

A200445.  Newidiadau arfaethedig i annedd bresennol. Werndeg, Glanwern, y Borth. Gadawodd y Cyng. Davies y cyfarfod (gweler cofnod 3). Dim gwrthwynebiad.

TRAETHAU

22.  Mae'r traeth gyferbyn â Pebbles wedi'i ail-broffolio ers y cyfarfod diwethaf. Mae preswylydd lleol yn poeni am y creigiau sy'n pentyrru i gyfeiriad Belair ac am y ffaith bod y leinin i'w weld mewn mannau. Nodwyd, serch hynny, nad oedd dim i'w boeni yn ei gylch. Gofynnwyd i'r Clerc gynnwys "Cŵn” ar agenda'r cyfarfod nesaf. Mae'r Cynghorwyr Bryn Jones a Delyth Pryce Jones wedi gofyn i'r achubwyr bywyd dynnu sylw pobl sy'n ymweld â'r traeth at y gwaharddiad cŵn.

SAFLEOEDD BWS

23.  Cytunwyd i ofyn i adeiladwr lleol am ddyfynbris am waith i atgyweirio'r persbecs ar y safle bws yn Cambrian Terrace ac ar y safle bws ger It's a Gift.                                          

MATERION Y CADEIRYDD

24.  Diolchodd y Cyng. Hughes i'r cyn-Gadeirydd ac i'r aelodau am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn a fu. Soniodd fod angen paentio mainc ar y ffordd tuag at yr eglwys a mainc arall ar Cliff Road, ond atebodd na fyddai hyn yn cael ei ystyried yn waith hanfodol ar hyn o bryd. Rhaid cael plac newydd ar y fainc a fabwysiadwyd ar y prom. Cytunwyd i gysylltu â'r perchennog i weld a allai'r Cyngor drefnu i gael plac newydd. Crybwyllodd y Cyng. Hughes fod angen cael baner Cymru newydd yn y maes parcio. Gofynnwyd i'r Clerc archebu un newydd. Y cynigydd oedd y Cyng. Bainbridge a'r eilydd oedd y Cyng. James. Pleidleisiodd pob aelod yn unfrydol o blaid y cynnig.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR
 
25. Bydd y cyfrifoldebau hynny nad ydynt wedi'u dyrannu i'r Cynghorwyr yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.
Cafwyd diweddariad byr gan y Cyng. Bainbridge ynglŷn â’r Cyngor Iechyd Cymuned.
Hysbysodd y Cyng. Pryce Jones fod yr Eisteddfod wedi'i gohirio tan y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Cyng. Tweedy fod yr elusen sy'n cydweithio â'r sŵ yn awyddus i drefnu sesiwn i lanhau'r traeth.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
26.   Rhoddodd y Cyng. Quant ddiweddariad byr ynglŷn â'r sefyllfa yn y sir o ran COVID-19. Bydd llwybr yr arfordir yn ailagor ar yr 17eg o Orffennaf. Ategodd fod Cyngor Sir Ceredigion wedi cael gwybod am y draeniau ar hyd y briffordd ac y byddai yn cael eu harchwilio.
 
Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA
 
27.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.00pm. Ymhlith yr eitemau ar agenda'r cyfarfod nesaf a gynhelir nos Lun, 3 Awst 2020 fydd Cŵn a Safleoedd Bws. Cysylltwch â'r Clerc os ydych am ychwanegu eitemau eraill at yr agenda. Bydd y Cyng. Hughes yn anfon dolen at bawb cyn y cyfarfod.  
 
  • Hits: 1228