• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion Mis Tachwedd 2018

COFNODION CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYFARFU YN Y NEUADD GYMUNEDOL
NOS LUN, TACHWEDD 5 2018 AM 19.00 O'R GLOCH
 
Presennol: Cadeirydd:                                C Bainbridge
                                                                    G Ashley
                                            R Dalton
                                            M Griffiths
                                            J James
                                            A J Morris (cyfetholwyd)
                                            P Turner-Wright
                                            M J Willcox    
Hefyd yn bresennol:      Cynghorydd Sir:   R P Quant
                                       Clerc:                    M Walker            
                                            4 aelod o'r cyhoedd.

YMDDIHEURIADAU

230. Y Cyng. H Hughes a'r Cyng. G B Jones.

CYFETHOL AELOD I'R CYNGOR

231.  Gwahoddodd y Cyng. Carol Bainbridge Mr Anthony Morris i ymuno â'r Cyngor. Tyngodd lw'r Datganiad Derbyn Swydd ac fe'i croesawyd yn aelod o Gyngor Cymuned y Borth. Rhoddwyd copi o'r Rheolau Sefydlog newydd i'r Cyng. Morris yn ystod y cyfarfod.

DATGAN BUDDIANT

232. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

233.  Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2018. 

MATERION YN CODI

234.  Ysgolion Hwylio'r Borth   Cofnod 193.  Rhoddodd y Cyng. Willcox ddiweddariad ynghylch cyfarfod a gafodd ag Emma Heathcote lle'r aeth ati i fynegi'i bryderon ynghylch yr Ysgolion Hwylio arfaethedig. Mae gan y Cyng. Turner-Wright hefyd bryderon er ei fod yn cefnogi'r cynllun yn llawn. Awgrymodd y Cyng. Quant y dylid estyn gwahoddiad i Emma i'r cyfarfod ym mis Rhagfyr.

235.  Maes Chwarae i Blant. Cofnod 194.  Mae'r mater yn parhau.

236.  Tir Comin. Cofnod 210.  Mae'r Cadeirydd wedi gofyn i'r eitem hon gael ei chynnwys ar agenda cyfarfod mis Rhagfyr.

237.  Llyfrynnau'r Rhyfel Mawr. Cofnod 226.  Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ynglŷn â'r llyfryn. Mae'r llyfryn bellach wedi'i gwblhau. Rhoddodd gopi ohono i bob aelod o'r Cyngor a oedd yn bresennol. Bydd rhai o'r llyfrynnau'n cael eu cyflwyno i blant Ysgol Craig yr Wylfa a bydd y gweddill yn cael eu gwerthu am £7.50. Bydd yr elw a wnaed o werthu'r llyfrynnau'n cael ei wario ar adnewyddu Rhestr y Gwroniaid.

GOHEBIAETH

238.  Un Llais Cymru.  Hyfforddiant Cyflwyniad i Ymgysylltu â'r Gymuned ym Machynlleth.

239.  Un Llais Cymru.  Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog.

240.  Un Llais Cymru.  Digwyddiadau Hyfforddi - Systemau Draenio Cynaliadwy. Bydd y Cyng. Turner-Wright yn bresennol.

241.  Ecodyfi.   Manylion digwyddiadau yn y dyfodol agos a gwahoddiad i'r Aelod fod yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.

242.  Llywodraeth Cymru. Mae'r ymgynghoriadau mwyaf diweddar i'w gweld ar wefan y Llywodraeth.

243.  Llywodraeth Cymru.  Bwletin mis Hydref Cyfoeth Naturiol Cymru.

244.  Un Llais Cymru.  Gwybodaeth am hyfforddiant a dyddiadau cynadleddau 2019.

245.  Llywodraeth Cymru.  Dolen i'r adroddiad terfynol yn sgil yr Adolygiad o'r Sector Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru ac adroddiad blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20.

246.  Coeden. Ymateb oddi wrth Ben Lake, AS.

247.  Safle Bws Ynyslas.   E-bost oddi wrth Jill Hulse parthed cyflwr y safle bws ar droad Ynyslas. Dywedodd y Cyng. Willcox y byddai'n cysylltu â'r Frigâd Dân er mwyn golchi'r safle bws. Gofynnwyd i'r Clerc gael dyfynbris am y gwaith paentio hefyd. Gofynnwyd iddi hefyd gael dyfynbris am waith paentio'r fainc ar y prom a fabwysiadwyd.

248.  Un Llais Cymru.  Ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch Cyfuno ac Adolygu Is-ddeddfwriaeth, Cyfuno Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1987.

249.  Cyngor Sir Ceredigion. Y Cytundeb Lefel Gwasanaeth am y cyfnod 1 Tachwedd 2018 hyd 31 Mawrth 2019 i'w arwyddo gan Gadeirydd y Cyngor. Y gost fydd £4500 + TAW y flwyddyn.  Penderfynodd yr Aelodau barhau â'r trefniant ar gost o £4500 + TAW y flwyddyn.

250.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion digwyddiad am ddim sy'n ymwneud â'r "Diwrnod Hawliau Gofalwyr".

251.  Un Llais Cymru.  Dolen i dudalen "Creu Cydweithrediad Rhwng Cymru a Gwlad y Basg".

252.  Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth Cais i dynnu i lawr £6,000 o gyllid refeniw'r flwyddyn gyfredol.

253.  Lle Gwag ar y Cyngor.  Bydd ceisiadau oddi wrth ddau ymgeisydd am y lle gwag sy'n weddill ar y Cyngor yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.

254.  Un Llais Cymru.  Wrth i Ddydd y Cadoediad 2018 nesáu, mae Un Llais Cymru'n annog ei aelodau i ddefnyddio gwefan 'Cymru'n Cofio 1914-1918' fel platfform i gyfathrebu.

255.  Gohebiaeth Arall  Clerks & Councils Direct, Llefydd Chwarae Kompan a Hags.

CYFRIFON

256. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Hydref 2018

   Nationwide                                                                                                    29,637.15

   Cyfri Cymunedol                                                                                             3,651.60

   Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                                                          28,834.99

   Cyfri Adnau                                                                                                     3,476.50

 

257. Incwm   

Cyfri Cymunedol - Rhent Safle Tirlenwi ac Amwynder Dinesig y Borth          4,616.50

Cyfri Busnes Dim Rhybudd - Praesept (taliad terfynol)                                     6,286.00

Fforddfreintiau Scottish Power                                                                                76.13

CSC - ad-daliad am lyfryn coffau'r Rhyfel Mawr                                                  370.75      

        

258. Gwariant - Penderfynodd yr Aelodau dalu'r canlynol:

        Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae'r Borth                                    6,000.00

        M Walker - cyflog 485.76, costau swyddfa 7.99                                           493.75

        Y Lleng Frenhinol Brydeinig - torch o flodau pabi                                         54.00

        Heledd Davies - cyfieithu cofnodion mis Hydref                                            81.15

        Robert Griffiths - torri porfa                                                                       1,872.00

        1 & S Thomas - Llyfrynnau'r Rhyfel Mawr                                               1,135.00

CYNLLUNIO

259.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn

A180992. Addasu'r atig, estyniad i'r garej ac addasiadau i'r annedd bresennol. Seibiant, Francis Road, y Borth.

A180995. Codi estyniad un llawr yng nghefn yr adeilad. Y Glyn, y Borth.

A181014. Codi estyniad dau lawr yng nghefn yr adeilad a dormer yn y cefn. Highfield, y Borth.

A181017. Y bwriad i ddymchwel heulfan a chodi estyniad un llawr. Rhosfryn, Princess Street, y Borth. Datganodd y Cyng. Willcox fuddiant a gadawodd yr ystafell.

Ystyriwyd y pedwar cais ac nid oedd gan Gyngor Cymuned y Borth DDIM GWRTHWYNEBIAD.

CYFRANOGIAD Y CYHOEDD

260.  Yn dilyn trafodaeth fer, cytunwyd i neilltuo 30 munud ar ddechrau'r cyfarfod er mwyn i'r cyhoedd ofyn cwestiynau neu wneud datganiadau ynglŷn â'r materion ar yr agenda.   Ni chaiff y cyhoedd gymryd ar unrhyw adeg arall yn ystod y cyfarfod. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw os dymuna'r Cadeirydd ofyn cwestiwn i aelod o'r cyhoedd ynglŷn ag eitem ar yr agenda dan drafodaeth.

RHEOLAU SEFYDLOG

261.  Mae Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol wedi cyhoeddi rheolau sefydlog enghreifftiol newydd sy'n disodli'r rhai presennol.  Mae rhai gwelliannau eto i'w gwneud o ran y diwyg. Ac eithrio'r rheolau sefydlog enghreifftiol sy'n cynnwys neu sy'n cyfeirio at y gofynion statudol newydd, nid oes newid i'r rhan fwyaf o'r rheolau sefydlog ers 2013.   Cymeradwyodd y Cyngor y rheolau sefydlog hynny a ofynnai am wybodaeth ychwanegol ym mis Medi. Trafodwyd hefyd yr opsiynau eraill sy'n agored i'r Cyngor wrth benderfynu ynghylch rhai rheolau sefydlog. Penderfynodd yr Aelodau fabwysiadu'r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol gan gynnwys adran ychwanegol (3e) a oedd yn ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd. 

GOLEUADAU STRYD

262. Cyn y cyfarfod, gofynnodd y Cyng. Phil Turner-Wright i'r Clerc anfon adroddiad a baratôdd ynghylch goleuadau stryd y Borth at bob Cynghorydd.  Nod yr adroddiad oedd ystyried yr opsiwn i newid amserau cynnau a diffodd y goleuadau stryd o'r amser presennol, sef 12am-5am i'r amser newydd, sef 1am-6am. Yn dilyn trafodaeth fer, penderfynodd yr Aelodau wneud ymholiadau ynghylch newid yr oriau tywyllwch i 1am-6am. Pleidleisiodd 4 o blaid y cynnig, pleidleisiodd 1 yn ei erbyn ac ymatalodd 3. Gofynnwyd i'r Clerc ysgrifennu at Mr Rhodri Llwyd o Gyngor Sir Ceredigion i sôn wrtho am y cynnig newydd.

MATERION Y CADEIRYDD

263.  Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariad ynghylch Cambrian Primary Care sy'n ffederasiwn meddygon teulu newydd sy'n cynnwys y saith meddygfa yn Ngogledd Ceredigion. Rhoddodd hefyd fanylion digwyddiad ar draeth Ynyslas rhwng 12.30 a 3.30 o'r gloch ar yr 11eg o Dachwedd lle bydd portread o unigolyn o gyfnod y Rhyfel Mawr yn ymddangos yn y tywod dros gyfnod o oriau. Rhoddodd y Cyng. Bainbridge ddiweddariadau ynghylch digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd gan adain Iechyd Meddwl y Cyngor Iechyd Cymuned yng Ngorwelion a chyfarfod trafnidiaeth Cysylltu Cymunedau yng Nghymru. Roedd noson cyflwyno rhoddion ariannol y Carnifal yn llwyddiant. Dosbarthwyd £10299 i glybiau ac ati yn y gymuned. Mae'r Cyng. Bainbridge wedi trefnu bod Siôn Corn yn ymweld â'r Borth ar y 18fed o Ragfyr. Cafwyd ymateb cadarnhaol hefyd i ailagor y Cylch Meithrin yn y Borth.

CYFRIFOLDEBAU'R CYNGHORWYR

264.  Nid yw'r Cyng. Ashley wedi cael dim ymateb oddi wrth PC Dave Goffin ynghylch cynnal sesiwn gwirio cyflymder arall. Mae'r garafán a oedd wedi'i pharcio ger y fferyllfa wedi'i symud oddi ar y brif stryd. Ni chafwyd dim diweddariad ychwanegol ynghylch yr arolwg cŵn diweddar ac mae'r baneri gwahardd cŵn bellach wedi'u symud oddi ar y safle tan y flwyddyn nesaf.

Hysbysodd y Cyng. Willcox fod y rhan fwyaf o'r byrddau storm bellach wedi'u gosod.  Mae wedi cael dyfynbris oddi wrth Mr Rob Davies am waith i wella'r llwybr cerdded cŵn. Cynigiodd y Cyng. Turner-Wright feinciau i'r Cyngor eu defnyddio yn yr ardal. Datganodd fuddiant yn y fan hon a gadawodd yr ystafell. Cytunwyd i brynu'r meinciau a'r pris y cytunwyd arno oedd £70 + TAW yr un. Penderfynodd yr Aelodau neilltuo £1500 tuag at gost y prosiect.

Rhoddodd y Cyng. Dalton ddiweddariad byr ynglŷn â chyfarfod y bu'n bresennol ynddo i drafod Amddiffynfeydd y Môr yn Aberystwyth a chadarnhaodd nad oedd dim cynlluniau tebyg i'r Borth.  Rhaid newid y garreg gopa gyferbyn â Gloucester House.

Dywedodd y Cyng. Turner-Wright ei fod ef a'r Cyng. Willcox wedi bwrw golwg dros y dyfrffosydd a'u bod yn poeni bod coed wedi'u gadael wrth ymyl y dyfrffos lle bu Cyfoeth Naturiol Cymru'n clirio ardal torri ffosydd ddiwethaf. Nid oedd gollyngfa ar gyfer y dŵr a oedd yn crynhoi yn yr ardal hon ac nid oedd y cwteri wedi'u clirio.  Mae'n gobeithio cwrdd â chynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru.

ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR

265.  Soniodd y Cyng. Quant fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clirio rhai o'r dyfrffosydd. Bydd gorchmynion parcio'n cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf ar y 6ed o Dachwedd.

Y CYFARFOD NESAF A'R MATERION I'W CYNNWYS AR YR AGENDA

266.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod cyhoeddus i ben am 9pm. Ymhlith yr eitemau ar Agenda’r cyfarfod nesaf ar nos Lun, y 3ydd o Ragfyr 2018 fydd diweddariad gan Emma Heathcote am Ysgol Hwylio'r Borth, Lle Gwag ar y Cyngor a Thir Comin. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                                                                                         

  • Hits: 1952