• Borth - Website

    BORTH COMMUNITY

    website

  • Borth - Tourist Info

    BORTH COMMUNITY

    tourist information

  • Borth - Council Minutes

    BORTH COMMUNITY

    council minutes

  • Borth - Local Weather

    BORTH COMMUNITY

    local weather

  • Borth - Groups & Clubs

    BORTH COMMUNITY

    groups & clubs

Cofnodion Cyngor/Council Minutes

Cofnodion - Mis Gorffennaf 2018

COFNODION CYFARFOD CYNGOR CYMUNED Y BORTH A GYNHALIWYD YN Y NEUADD GYMUNEDOL AR
NOS LUN, 2 GORFFENNAF 2018 AM 19.00 O’R GLOCH

 

Presennol:       Cadeirydd:                      C Bainbridge
                                                                G Ashley
                                                                R Dalton
                                                                M Griffiths
                                                                J James
                                                                M J Willcox    
Hefyd yn
Bresennol:        Cynghorydd Sir:            R P Quant
                          Clerc:                            M Walker                      
                                                                8 aelod o’r cyhoedd. 
 

YMDDIHEURIADAU

82. Y Cynghorwyr G B Jones a W J Williams.  Daeth e-bost i law’r Clerc oddi wrth y Cyng. Stacy Jones yn dweud ei bod yn ymddiswyddo o Gyngor y Borth.

DATGAN BUDDIANT

83. Atgoffwyd y Cynghorwyr i ddatgan buddiant dan unrhyw fater perthnasol a allai godi yn ystod y cyfarfod. 

COFNODION Y CYFARFOD MISOL

84.  Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod misol a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2018 yn gywir.

MATERION YN CODI

85.  Cŵn.  Cofnod 54.  Dangosodd y Clerc dempled i’r aelodau o arwydd gan Luke Griffiths o gwmni Redesings a oedd yn ymwneud â mynd â chŵn am dro. Cymeradwyodd yr Aelodau’r arwydd ar yr amod ei fod yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.

86.  Parc Cychod.  Cofnod 55.  Mae’r Cyng. Ashley wedi gosod arwydd sy’n gofyn i berchnogion cychod/trelars eu cofrestru. Bydd y cychod hynny nad ydynt wedi’u cofrestru yn cael eu symud oddi ar y safle.

87.  Taliadau Cydnabyddiaeth i Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.  Cofnod 58.  Mae’r Cyng. Dalton wedi paratoi llythyr i’r Aelodau ei arwyddo os nad ydynt am fod yn rhan o’r cynllun.

88.  Y Rhyfel Mawr.  Penderfynodd yr Aelodau roi £370.75 tuag at argraffu 100 o lyfrau newyddion am y Rhyfel Mawr. Pleidleisiodd yr Aelodau yn unfrydol o blaid hyn.

GOHEBIAETH

89. Coeden.  E-bost oddi wrth Elizabeth Mullan, Naomi Salmon, James Davies a Rychard Carrington ynghylch yr apêl llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i wrthod caniatâd cynllunio.

90.  Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Cylchlythyr Ebrill 2018.

91.  Rheolau Sefydlog Enghreifftiol 2018.  Bydd set newydd o Reolau Sefydlog yn disodli’r rhai presennol. Bydd y mater hwn yn cael ei gynnwys ar agenda cyfarfod mis Medi.

92.  Llywodraeth Cymru.  Manylion ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru.

93.  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Mae’r Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i gŵyn yn erbyn Cynghorydd a oedd yn ymwneud â’r cod ymddygiad.

94.  Panel Adolygu Annibynnol.  Cylchlythyr Mehefin.

95.  Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Agorodd y Gwasanaeth Tân y Caffi Tân yn swyddogol ar y 12fed o Fehefin.

96.  Cyngor Sir Ceredigion.  Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau â phreswylwyr ynglŷn â’r ffordd y gall roi llais iddynt wrth gryfhau cymunedau a dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol.  

97.   Un Llais Cymru.  Manylion cynllun hyfforddi i raddedigion.

98.   Cymdeithas yr Iaith.  Mae’r Gymdeithas yn mynd i godi ymwybyddiaeth ymhob cymuned ynglŷn â’r angen i ddatblygu’r cyfryngau yng Nghymru drwy drefnu gigs a nosweithiau adloniant ymhob cymuned, neu drwy gael cymunedau i gydweithio i gynnal y digwyddiadau hyn.

99.    Un Llais Cymru.   Manylion y grantiau ar gyfer gosodiadau Sul y Cofio.

100.  Biosffer Dyfi.  Cafwyd diweddariad yn sgil cyfarfod diweddar. Gwirfoddolodd y Cyng. Margaret Griffiths i gynrychioli’r Cyngor yng nghyfarfodydd Biosffer Dyfi yn dilyn ymddiswyddiad y Cyng. Stacy Jones.

101.  Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.  Cais i rannu gwybodaeth am gyfle cyffrous sydd ar gael i elusennau/mudiadau lleol ac ati sy’n gweithio â phobl ifanc.

102.  Un Llais Cymru.  Cynhelir Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru yn Llanfair ym Muallt ar y 4ydd o Orffennaf.

103.  Cyfoeth Naturiol Cymru.  Cylchlythyr Mehefin 2018.

104.  Llywodraeth Cymru.  Cylchlythyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

105.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion cau’r ffordd yn Nôl-y-bont ar y 25ain o Orffennaf 2018.

106.  Cyngor Sir Ceredigion.  Manylion ymgynghoriad ynghylch safle gwastraff domestig yn Llanarth.

107.  Un Llais Cymru.  Manylion y sesiynau hyfforddi sydd ar fin digwydd.

108.  Glan y môr y Borth.  Ymateb i lythyr y Cyng. Dalton ynghylch proffil y traeth a llythyr copi at Gyngor Sir Ceredigion oddi wrth Ms Sadie Everard yn mynegi’i phryder ynglŷn â’r cerrig sy’n crynhoi y tu ôl i’w heiddo a’r ateb oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion.  Mae’r Cyng. Bryn Jones hefyd wedi anfon e-bost yn ei absenoldeb sy’n ymwneud â’r cerrig sy’n crynhoi wrth y bronglawdd.  Bydd y Cynghorydd Sir, Ray Quant, yn ymchwilio i hyn.

109.  Un Llais Cymru.  Mae Modiwl 15 – Rheoli Gwybodaeth wedi’i ddiweddaru fel ei fod yn cynnwys darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 ac yn cwmpasu Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

110.  Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Manylion arolwg ar-lein sy’n holi a yw’r gwasanaeth yn sicrhau gwerth am arian.

111.  Ecodyfi.  Y digwyddiadau sydd ar y gweill.

112.  Cyngor Sir Ceredigion.  Gwybodaeth am gau ffordd rhwng drwy’r Borth ar ddiwrnod y carnifal ar y 3ydd o Awst.

113.  RoSPA.  Adroddiad yn sgil archwiliad diogelwch sy’n codi nifer o faterion y bydd yn rhaid mynd i’r afael â nhw.

114.  Cynllun Datblygu Lleol Newydd Ceredigion 2018-2033.  Wrth baratoi tuag y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, mae’r Cyngor yn gwahodd datblygwyr, darparwyr gwasanaethau, tirfeddianwyr ac eraill sydd â buddiant mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried yn safleoedd a neilltuwyd er mwyn eu datblygu neu eu defnyddio mewn ffyrdd eraill drwy’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Dylid cyflwyno’r safleoedd hyn erbyn hanner dydd ar y 27ain o Fedi.

115.  Un Llais Cymru.  Mae 10fed argraffiad cyhoeddiad Charles Arnold Baker ar gael am £53 + £7 cludiant, sef gostyngiad o 50% oddi ar y pris arferol.

116.  Un Llais Cymru.  Bwletin Newyddion 2018.

117.  Cyngor Sir Ceredigion.  Llythyr sy’n hysbysu’r Cyngor mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw delio â cheisiadau i fonitro trwytholch ac ati.

118.  Un Llais Cymru.  Manylion Cyfarfod Blynyddol Ardal Ceredigion a gynhelir ar ddydd Mercher, y 18fed o Orffennaf.

119.  Un Llais Cymru.  Manylion digwyddiad Plant, Pobl Ifanc a Democratiaeth yng Nghymru.

120.  Llwybr Troed.  Ateb oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion (gweler Cofnod 46, Mai 2018) parthed y llwybr troed gyferbyn â Pebbles. Ym marn Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Cymuned y Borth sy’n cynnal a chadw’r rhan hon o’r llwybr troed. Dywedodd y Cyng. Quant y byddai’n ymchwilio rhagor i’r mater hwn. Penderfynodd yr Aelodau roi pŵer i’r Cadeirydd awdurdodi’r gwaith yn ystod toriad yr haf os oes angen ei wneud yn syth.

121.  Un Llais Cymru.  Hysbyseb swydd - Swyddog Datblygu Gogledd Cymru.

122.  Un Llais Cymru.  Cynhelir cynhadledd a Chyfarfod Blynyddol Cyffredinol Un Llais Cymru ar ddydd Sadwrn, y 29ain o Fedi ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

CYFRIFON

123. Gweddill y Cyfrifon ar 13 Mehefin 2018

       Nationwide                                                                        29,637.15
       Cyfri Cymunedol                                                                 2,673.29
       Cyfri Busnes Dim Rhybudd                                              27,805.45
       Cyfri Adnau                                                                         3,475.16

124.Incwm    

       Cyfri Busnes Dim Rhybudd – llog gros hyd 31/5/18                3.15

125.Gwariant – Penderfynodd yr Aelodau dalu’r canlynol:
       Mrs Heledd Davies – gwasanaeth cyfieithu                           102.75
       Luke Griffiths – gwaith trwsio safleoedd bws                     1,014.00
       Playsafety Limited – archwilio maes chwarae                        270.00  
       M Walker – cyflog 485.76, costau swyddfa 25.46                  511.22
       Cyngor Sir Ceredigion – argraffu 100 o
       lyfrynnau am y Rhyfel Mawr                                                  370.75
       Clwb Pêl-droed Unedig y Borth – rhodd ariannol                1,500.00
 
CYNLLUNIO
 
126.  Cais am Ganiatâd Cynllunio Llawn.
A180515.  Codi estyniad llawr cyntaf i’r cefn, cyntedd i’r ochr a chladin pren, Bodnant, Ffordd y Fulfran, y Borth. DIM GWRTHWYNEBIAD.
 
MAES CHWARAE I BLANT
 
127.  Wedi derbyn yr adroddiad a ddaeth yn sgil yr archwiliad, penderfynydd yr Aelodau ofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ddyfynbris am yr holl waith y bydd angen ei wneud. Penderfynwyd gofyn i Rob Griffiths atgyweirio rhan o’r ffens a ddifrodwyd hefyd.
 
YSGOL HWYLIO’R BORTH
 
128.  Dosbarthodd y Clerc e-bost a baratôdd y Cyng. Quant cyn y cyfarfod er sylw’r Cynghorwyr. Roedd yr e-bost yn rhoi gwybodaeth gefndirol am yr Ysgol Hwylio arfaethedig a’i manteision. Yn dilyn cyflwyniad gan y Cyng. Ray Quant ar ran Emma Heathcote, nad oedd yn gallu bod yn bresennol, penderfynodd y Cyngor, mewn egwyddor, i gymeradwyo gosod tir y parc cychod ar brydles er mwyn sefydlu Ysgol Hwylio, ar yr amod y bydd y trafodaethau gydag Emma yn llwyddiannus. Bydd Emma ei hun yn annerch y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Medi.
 
CLYMOG JAPAN
 
129.  Hyd yma, nid oes cais wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd i glirio clymog Japan. Dywedodd y Cyng. Quant y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio’r dyfrffosydd.
 
CYNNAL A CHADW CAEAU CHWARAE
 
130.  Dosbarthodd y Cyng. Willcox gopïau o gyfrifon blynyddol Clwb Pêl-droed Unedig y Borth a diweddarodd y Cyngor ynglŷn â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y caeau chwarae. Gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn barod i gefnogi gwaith cynnal a chadw’r caeau chwarae yn ariannol drwy gyfraniad blynyddol. Datganodd y Cyng. Willcox fuddiant yn y fan hon a gadawodd yr ystafell. Penderfynodd yr Aelodau gyfrannu £1500 i Glwb Pêl-droed y Borth ac y byddai’n adolygu’r sefyllfa ym mis Ionawr pan fydd yn gosod y praesept.  Hysbysodd y Cyng. Quant yr Aelodau bod Cymdeithas Chwaraeon a Chaeau Chwarae’r Borth wedi derbyn £500 oddi wrth Ddŵr Cymru. Byddai’r arian hwn yn cael ei roi i Glwb Pêl-droed Unedig y Borth.
 
LLEFYDD GWAG AR Y CYNGOR
 
131.  Mae’r Clerc wedi cael dau gais ac mae wedi’u hanfon at Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r Cyng. Billy Williams wedi anfon llythyr at y Cyngor sy’n nodi ei fod yn llwyr ymwybodol nad oes modd iddo wasanaethu fel Cynghorydd mwyach am iddo fod yn absennol dros y chwe chyfarfod diwethaf. Gofynnodd a fyddai modd ei gyfethol petai lle gwag ar gael yn y dyfodol. Bydd y Clerc yn cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion yn ei hysbysu fod gan Gyngor Cymuned y Borth ddau le gwag arall.
 
MATERION Y CADEIRYDD
 
132.   Hysbysodd y Cyng. Bainbridge y bydd Cylch Meithrin y Borth yn ailagor ym mis Medi. Mae adeilad yr Ysgol yn dathlu 50 mlynedd ar y 14eg o Orffennaf. Rhoddodd ddiweddariad byr ynghylch y Cyngor Iechyd Cymuned a soniodd bod gwiberod wedi’u gweld ar y Cwrs Golff.
 
CYFRIFOLDEBAU’R CYNGHORWYR
 
133.  Gofynnodd y Cyng. Bryn Jones i’r Cyng. Ashley ddiolch i’r Cyng. Willcox am ysgwyddo dyletswyddau archwilio mewnol y Cyngor yn ei absenoldeb. Mae’r grisiau wrth odre Cliff Road yn araf ddirywio. Mae’r Cyng. Quant eisoes wedi codi’r mater hwn. Gofynnwyd i’r Clerc sôn nad yw’r cawodydd y tu ôl i’r bloc toiledau gyferbyn â’r orsaf drenau yn gweithio. Mae dymchwel sbwriel yn parhau i fod yn broblem. Soniodd y Cyng. Quant y bydd y cynllun casglu poteli o ymyl y ffordd yn cychwyn yn 2018/19. Mae’r Cyng. Ashley yn poeni ei bod yn gynyddol anodd dod o hyd i dri pherson i gynnal archwiliadau cyflymder ar unrhyw adeg.
Daeth y Cyng. Griffiths o hyd i fag a oedd yn cynnwys 1,000 o dabledi paracetamol ger y bin sbwriel y tu ôl i’r Surrey Café.  Mae’r darn glaswellt gyferbyn â Benfleet wedi’i dorri.
Gofynnodd y Cyng. Willcox i’r llinellau gael eu paentio unwaith eto wrth y fynedfa frys i’r traeth ger y toiledau cyhoeddus ym mhen deheuol y pentref.
Dywedodd y Cyng. James fod cŵn yn cerdded heb dennyn ar Lwybr yr Arfordir er bod gofyn i berchnogion gadw’u cŵn ar dennyn byr.  Mae’r ymyl glaswellt ar hyd Clarach Road yn flêr er i’r darn hwn gael ei dorri’n ddiweddar.
Rhoddodd y Cyng. Dalton ddiweddariad ynghylch y cyfarfod PACT diweddar. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar yr 20fed o Fedi. Bydd fan ‘Gan Bwyll’ yn ymweld â’r Borth yn y dyfodol. Defnyddir y cerbydau hyn i fesur cyflymdra ac ati ar y ffyrdd.
 
ADRODDIAD Y CYNGHORYDD SIR
 
134.  Mae’r Cyng. Quant wedi derbyn cwyn ynghylch baw cŵn ar y traeth. Rhoddodd ddiweddariad byr am gyfarfod diweddar Biosffer Dyfi y bu ynddo. Nododd mai’r prif bwnc trafod oedd mynd yn “ddi-blastig” a rhoddodd ddiweddariad cryno am y Cynlluniau Bro a fydd yn cael eu cynnwys ar yr agenda yn y dyfodol.
 
Y CYFARFOD NESAF A’R MATERION I’W CYNNWYS AR YR AGENDA  
 
135.  Gan nad oedd rhagor o faterion i’w trafod, daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben am 9.45pm.  Ymhlith yr eitemau ar agenda’r cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, y 3ydd o Fedi 2018 fydd cyflwyniad gan Emma Heathcote – Ysgol Hwylio’r Borth, y Rheolau Sefydlog, Maes Chwarae i Blant a chyfethol Aelodau newydd i’r Cyngor. Dylid rhoi gwybod i’r Clerc am eitemau eraill.                                                                                         
  • Hits: 2501